Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw maint y broblem?

Gan fod asbestos wedi cael ei ddefnyddio'n aml yn y gorffennol a bod y ffibrau'n rhai naturiol, rydym i gyd yn dod i gysylltiad â lefel isel o asbestos ac yn ei anadlu bob dydd. Mae'n annhebygol iawn y bydd y cyhoedd yn dod i gysylltiad â lefel ddigon uchel o asbestos, dros gyfnod digon hir o amser, i achosi effeithiau andwyol ar iechyd.

Os ydych mewn cysylltiad â rhywun neu rywbeth sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol ag asbestos, mae'n annhebygol y bydd hyn yn peri risg uwch o ran iechyd y cyhoedd, yn enwedig os yw'r cysylltiad yn un tymor byr yn unig.