Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw effaith dod i gysylltiad ag asbestos o ran iechyd?

Mae risg fach iawn i iechyd pobl os nad yw asbestos wedi ei ddifrodi. Fodd bynnag, os bydd cynhyrchion sy'n cynnwys asbestos yn cael eu difrodi, gall y ffibrau gael eu rhyddhau i'r aer. Gall pobl sy'n gweithio gydag asbestos neu sydd â chynnyrch sy'n cynnwys asbestos fod yn agored i lefelau uwch o ffibrau asbestos yn yr aer.

Gall anadlu crynodiadau uchel o asbestos am gyfnod hir (a elwir yn aml yn gysylltiad oes gyfan) gael effaith andwyol ar yr ysgyfaint a gall achosi clefyd o'r enw asbestosis. Mae asbestosis yn arwain at broblemau gyda'r galon ac anawsterau anadlu. Mae hefyd yn bosibl datblygu canser yr ysgyfaint o ganlyniad, gan fod asbestos yn cael ei ystyried fel carsinogen dynol ac nid oes unrhyw lefel hollol ddiogel.

Gall pobl sy'n anadlu crynodiadau is, dros gyfnod hir, ddatblygu placiau pliwrol neu fesothelioma.