Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n cael ei wneud i reoli'r effaith?

Mae asbestos bellach wedi'i wahardd rhag cael ei ddefnyddio yn y DU. Mae Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 yn nodi bod rhaid i unrhyw waith sy'n ymwneud ag asbestos gael ei wneud gan rywun sydd wedi'i drwyddedu'n briodol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae'n bosibl y gall deunyddiau sy'n cynnwys asbestos fod yn eich cartref os cafodd ei adeiladu cyn 2000. Mae'n bosibl bod asbestos wedi'i ddefnyddio i wneud cynhyrchion concrid fel toeau a phibellau, tanciau dŵr, byrddau inswleiddio, mewn nenfydau neu orchuddion nenfwd fel artecs.

Ni ddylech boeni am asbestos yn eich cartref os nad yw wedi'i ddifrodi ac os nad yw’n debygol y bydd rhywun yn tarfu arno. Y peth gorau i'w wneud yw gadael llonydd iddo. Fodd bynnag, os oes angen i chi gael gwared ar asbestos o'ch cartref, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich  awdurdod lleol am gyngor.