Ni ddylai deunyddiau asbestos sydd heb eu difrodi, neu mewn man lle nad oes unrhyw un yn debygol o darfu arnynt, achosi niwed. Os byddwch yn dod i gysylltiad â ffibrau asbestos, dylech symud o leoliad y cysylltiad.
Os oes gennych ffibrau asbestos ar eich croen a'ch dillad:
- Peidiwch ag ysgwyd na brwsio'r ffibrau oddi arnoch - bydd hyn yn eu gwasgaru i’r awyr a’u gwneud yn fwy tebygol o gael eu hanadlu.
- Tynnwch yr holl lwch a ffibrau y gallwch eu gweld oddi ar eich corff, eich dillad a’ch esgidiau, drwy ddefnyddio clwtyn llaith a’i batio’n ofalus.
- Tynnwch unrhyw ddillad wedi'u halogi (nid dros y pen) a'u rhoi mewn bag gyda'r clwtyn llaith.
- Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am gyngor ar gael gwared ar y dillad.