Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Sefydlu Fferm Amaethyddol a Gefnogir gan y Gymuned ar Dir yn Ysbyty Treforys, Abertawe

Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ymwybodol bod Rob Hernando, tyfwr a oedd yn gweithio yn CSA Cae Tan ar Benrhyn Gŵyr, wedi cysylltu â Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe. Roedd Rob yn chwilio am gyfleoedd i sefydlu fferm Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) yn Nwyrain Abertawe.

Oherwydd ei dopograffeg, roedd gan y Bwrdd Iechyd 7.6 erw o dir ar gael a oedd yn anaddas i'w ddatblygu yn y dyfodol, ac roedd ymwybyddiaeth o'r ffyrdd ehangach y gallai CSA wella iechyd a lles pobl tra'n darparu sicrwydd bwyd. Ar wahân i gynyddu mynediad at fwyd iach a gynhyrchir yn lleol, gall CSAs hefyd ddarparu ystod o fuddion anuniongyrchol, megis lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd yn y boblogaeth leol trwy gyfleoedd gwirfoddoli, gwella economïau, cefnogi'r economi gylchol a darparu cyfleoedd addysgol i'r gymuned ehangach.

Ym mis Ionawr 2021, cysylltwyd â Rob a Cae Tan CSA i archwilio beth fyddai'n ei olygu. Hyrwyddwyd y prosiect wedyn o fewn y Bwrdd Iechyd, gan ddefnyddio iaith a dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ymrwymiadau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a dull  'Iechyd Cyfunol’ o ymdrin â pholisi iechyd i weithredu fel y cyfrwng i geisio cymeradwyaeth gan y Bwrdd Iechyd i gefnogi sefydlu CSA. Derbyniodd y prosiect gymeradwyaeth y Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2021.

Y berthynas unigryw hon rhwng bwrdd iechyd a CSA yw'r gyntaf o'i bath yn y DU.

Mae'r CSA yn gobeithio cynhyrchu digon o fwyd ar gyfer tua 150 o gartrefi'r wythnos trwy gynllun bocsys llysiau, darparu rhywfaint o fwyd i adran arlwyo'r ysbyty mewn digwyddiadau arbennig, a rhoi unrhyw fwyd dros ben i fanciau bwyd lleol i sicrhau nad oes dim yn cael ei wastraffu. Bydd y CSA hefyd yn cefnogi menter Ysgolion Iach a fydd yn galluogi plant o'r ardal leol i ddysgu mwy am yr amgylchedd a chymryd rhan mewn prosiectau tyfu.


Amanda Davies

amanda.davies12@wales.nhs.uk