Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws/ baban?

Os nad yw wedi cael ei ganfod yn gynenedigol, mae’n bosibl na ddaw’r anomaledd yn amlwg yn ystod dyddiau cyntaf bywyd y baban, gan fod gwaed wedi’i ocsigeneiddio yn dal i gylchredeg oherwydd bod y ductus arteriosus a’r fforamen hirgrwn yn aros ar agor. Ond fe ddaw’r anhwylder i’r amlwg yn fuan iawn unwaith y bydd y ddwy strwythur hyn yn cau gan rwystro gwaed wedi’i ocsigeneiddio rhag cylchredeg yn rhydd fel y dylai. Gall babanod fynd yn fyr iawn eu gwynt a datblygu syanosis (dangos arlliw glas ar y croen) o ganlyniad i ddiffyg trwythiad ocsigen. Mae’r pyls yn cyflymu a gall y bydd murmur calon yn amlwg i unrhyw glinigydd sy’n gwrando ar galon y baban. Os na roddir triniaeth, byddant yn methu â ffynnu. Nid yw’r llawdriniaeth a gyflawnir i adfer gweithrediad y galon yn rhoi ‘gwellhad’. Bydd angen nifer o lawdriniaethau ar wahanol adegau i hybu a chynnal gweithrediad y galon, a bydd angen ôl-driniaeth feddygol am weddill oes y claf.