Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylderau'r gwaed

Mae nifer fawr o anhwylderau gwaed cynhenid, y ceir rhai ohonynt yn amlach nag eraill.

Mae’r anhwylderau gwaed sydd wedi’u cofnodi ar gronfa ddata CARIS yn cynnwys :

  • Clefyd y Crymangelloedd
  • Clefyd Von Willebrand
  • Hemoffilia A
  • Hemoffilia B
  • Sfferosytosis ac eliptosytosis etifeddol
  • Thalasemia

Mae yna anhwylderau cynhenid eraill sy’n effeithio ar y gwaed, ac er eu bod yn gymharol gyffredin nid ydynt yn ymddangos yn aml fel achosion ar y gronfa ddata. Y rheswm yw nad ydynt yn ymddangos cyn diwedd plentyndod neu ddechrau oedolaeth y claf, ac o’r herwydd nid ydynt yn cael eu hadrodd yn aml i CARIS. Un esiampl o hyn yw hemocromatosis.

Mae celloedd gwaed yn dechrau datblygu yn ystod trydedd wythnos y beichiogrwydd; ond nid yw’r gwaed ei hun yn dechrau ymffurfio tan y bumed wythnos yn yr afu, ac yn nes ymlaen yn y ddueg, mêr yr esgyrn a’r chwyddau lymff. Tri math o gelloedd gwaed sy’n cyfrif am ryw 45% o feinwe’r gwaed, sef y celloedd gwaed cochion (erythrosytau), y celloedd gwaed gwynion (lewcosytau) a’r platennau (thrombosytau). Mae anhwylderau’r gwaed yn cynnwys anhwylderau sy’n effeithio ar gelloedd gwaed cochion a gwynion, platennau, mêr yr esgyrn a’r cynhwysion hynny yn y gwaed sy’n chwarae rhan yn y prosesau ceulo a gwaedu.

Clefyd y Crymangelloedd

 

Thalasemia

 

Sfferosytosis etifeddol

 

Hemoffilia (Clefyd Gwaedu)

 

Clefyd Von Willebrand