Neidio i'r prif gynnwy

Gwefus a/neu daflod hollt

Beth ydyw?

Mae hollt yn fwlch, p’un ai yn y wefus uchaf, neu yn nhaflod y genau, neu yn y ddau le.  Gall holltau’r wefus amrywio o ricyn yn y wefus i hollt llwyr sy’n ymestyn i fyny i mewn i’r trwyn. Gallant ddigwydd ar un ochr (unochrog) neu ar y ddwy (dwyochrog).  Ffurfir taflod y genau gan ddwy ran – y daflod galed (esgyrnog) yn y blaen, a’r daflod feddal (gyhyrog) yn y cefn, sy’n gorffen yn y tafodig (wfwla). Gall taflod hollt ddigwydd ar ei phen ei hun, neu ar y cyd â gwefus hollt. Mae’n gallu effeithio ar un ochr i’r geg yn unig neu (yn llai cyffredin) y llinell ganol, pryd y’i cysylltir â chyfraddau uwch o namau genedigaethau eraill. Yn aml nid yw holltau bach sy’n effeithio ond ar y daflod feddal yn unig yn cael eu diagnosio adeg genedigaeth, yn enwedig os yw’r pilenni gorchuddiol wedi aros yn gyfan (holltau isfwcosaidd). Yn aml mae’r namau llai difrifol hyn yn dod i’r olwg ym mlynyddoedd cynnar y plentyn wrth i broblemau lleferydd cysylltiol ddod yn fwy amlwg.

Embryoleg

Mae’r wyneb yn datblygu o nifer o fannau gwahanol sydd wedyn yn ymgyfuno. Mae hyn yn digwydd erbyn tua’r pumed wythnos ar ôl i’r fam feichiogi yn achos y gwefusau, ac erbyn tua’r nawfed wythnos yn achos y daflod. Gall holltau ddatblygu os nad yw’r broses hon yn digwydd yn llwyddiannus.

Achosion a ffactorau risg

Ni wyddys yr union ffactor sy’n gyfrifol yn y rhan fwyaf o achosion, ond credir ei fod yn gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol. Fe’i ceir yn amlach mewn anhwylderau cromosomaidd, yn enwedig Trisomedd 13 a thriploidedd. Ymddengys bod gan daflod hollt yn unig darddiad gwahanol i namau sy’n cynnwys gwefus hollt. Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys:

  • Hanes o holltau yn y teulu sy’n cynnwys cysylltiad genetig
  • Diffyg asid ffolig yn neiet y fam cyn ac yn ystod misoedd cynnar y beichiogrwydd
  • Ysmygu a defnydd uchel o alcohol gan y fam
  • Gordewdra a maethiad gwael yn y fam
  • Moddion a gymerir gan y fam gan gynnwys rhai cyffuriau gwrth-epileptig, methotrecsad ac isotretinoin

Darganfod y nam

Gellir diagnosio namau sy’n cynnwys gwefus hollt ar sganiad uwchsain cynenedigol tua’r 20fed wythnos, er ei bod hi’n anos o lawer darganfod taflod hollt yn unig. Dengys data CARIS fod rhyw 70% o achosion yn cael eu darganfod cyn genedigaeth.
 

Patrymau a thueddau

Yng Nghymru

Adroddwyd cyfanswm o 1417 o achosion o bob math o holltau i CARIS (1998-2017), gan roi cyfradd grynswth o 21.2  i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw.

Mae cyfraddau taflod hollt yn unig yn amrywio ar draws Cymru rhwng ardaloedd y gwahanol awdurdodau lleol, a gwelir cyfraddau uwch yn y gogledd orllewin. Ymchwiliwyd i’r canfyddiad hwn yn y gorffennol, ond ni ddaethpwyd o hyd i reswm dros y patrwm. Mae CARIS yn dal i gadw’r sefyllfa dan arolwg.

Cymru o’i chymharu â mannau eraill

Mae llawer o gofrestrau EUROCAT yn adrodd cyfraddau holltau wynebol tebyg i rai Cymru. Y gyfradd mewn genedigaethau byw a adroddir gan EUROCAT yw 14.7 i bob 10,000 o enedigaethau (1:680 o enedigaethau byw).

Rheolaeth a deilliannau

Bydd tîm aml-ddisgyblaethol yn gweithredu o foment y diagnosis ymlaen, gan gynorthwyo gyda bwydo, lleferydd ac atgyweirio’r nam.

Rhagor o wybodaeth: