Neidio i'r prif gynnwy

Y System resbiradol

Beth ydyw?

Mae CCAM yn digwydd pan fydd syst anweithredol o feinwe abnormal yn cymryd lle rhan o’r ysgyfant.

Embryoleg

Ni wyddys yn iawn, ond credir iddo gael ei achosi gan atresia bronciol lleol neu rwystriad bronciol.

Achosion a ffactorau risg

Ni wyddys am yr un.

Darganfod y nam

Mae’n bosibl darganfod CCAM yn gynenedigol trwy sganiad uwchsain. Dengys data CARIS fod y gyfradd ddarganfod o gwmpas 85 y cant.

Patrymau a thueddau

Yng Nghymru

Mae 112 o achosion wedi cael eu hadrodd i CARIS (1998-2016) gan roi cyfradd fynychder grynswth o 1.8 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw. Mae dadansoddiad diweddar gan EUROCAT wedi awgrymu cynnydd cyffredinol yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Nid yw’r rhesymau dros hyn yn glir, ond gallent ddeillio o welliannau yn y dulliau darganfod cynenedigol.

Cymru o’i chymharu â mannau eraill

Mae cyfradd gymedrig EUROCAT rywfaint yn is, sef 0.7 i bob 10,000 o enedigaethau byw a marw.

Rheolaeth a deilliannau

Mae’r deilliant yn dda iawn yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae rhai achosion yn ymddatrys yn ystod y beichiogrwydd.  Mae ymchwilio ôl-enedigol yn bwysig ar gyfer asesu ac efallai tynnu’r syst oherwydd y risg o o falaenedd, er bod barnau clinigol yn amhendant ynghylch yr opsiwn triniaeth sydd orau. Mae archwiliad diweddar ar achosion yng Nghymru’n awgrymu methiant i ganlyn arni â monitro wyth o bedwar deg wyth o achosion ar ôl genedigaeth.[1]

Ffynonellau

  • Textbook of Fetal Abnormalities 2nd edition, 2007 Twining, McHugo, Pilling Churchill Livingstone

  • Arolwg CARIS 2011

Cyfeiriad

[1] Outcome of antenatally suspected congenital cystic adenomatoid malformation of the lungs (CCAM) and sequestration of the lungs in Wales, UK: 7 years experience 2000-2006, Gopalkrishnan, Calvert, Morris, Doull and Tucker, ICBDSR annual meeting, Salt Lake City, USA, 2009.