Neidio i'r prif gynnwy

Anomaleddau Cardiaidd Cynhenid

Trosolwg

Y ddau destun y canolbwyntiwyd arnynt yn Arolwg Blynyddol CARIS yn 2017 yw anomaleddau cardiaidd cynhenid, ynghyd ag anomaleddau a gysylltir â diabetes math 1 a math 2 yn y ddarpar-fam.

Y system y bydd anomaledd cardiaidd yn effeithio arni amlaf yw’r system gardiaidd. Awgrymodd Sefydliad Prydeinig y Galon (2013) fod 1 o bob 180 o fabanod a enir yn y DU yn dioddef clefyd cynhenid y galon, ond bod y gyfradd wedi bod yn gostwng dros y 30 mlynedd diwethaf. Adroddodd hefyd am gyfradd uwch o AauCC ymhlith plant a enir mewn genedigaethau lluosog nag ymhlith y rhai a enir mewn genedigaethau unigol.

Y nifer gronnol a gafwyd yng Nghymru rhwng 1998 a 2016 oedd 126 o achosion i bob 10,000 o enedigaethau o unrhyw anomaledd yng nghylchrediad y gwaed. Adroddir am ryw 90 o achosion o anomaleddau cardiaidd cynhenid enbyd bob blwyddyn yng Nghymru erbyn hyn, ac mae’r gallu i’w canfod yn gynenedigol yn cynyddu wrth i dechnegau sgrinio barhau i wella.

Mae EUROCAT yn coladu data o gofrestrau ledled Ewrop, ac mae hyn wedi awgrymu bod mynychder nam cynhenid ar y galon o unrhyw fath yn 65 i bob 10,000 o enedigaethau (o 2011 tan 2015).

Mae angen ymyrriad llawfeddygol cymhleth ar lawer o’r anomaleddau cardiaidd cynhenid a ganfyddir mewn babanod a enir yn fyw yng Nghymru,a hynny yn fuan iawn ar ôl eu genedigaeth. Mae rhagor o wybodaeth am anhwylderau cardiaidd cynhenid ar gael o:

Mae Ffederasiwn Calon y Plant yn elusen dan arweiniad rhieni yn y DU sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd lle mae anhwylderau cardiaidd cynhenid, a gellir gweld eu manylion yma :

http://www.chfed.org.uk/

Mae’r Arolwg hwn yn canolbwyntio ar chwech anomaledd difrifol  a welir yng Nghymru:

  • Amgaead yr aorta
  • Trawsleoliad yr arterïau (rhydwelïau) mawrion
  • Pedwarawd Fallott
  • Syndrom calon chwith hypoplastig
  • Agorfa ddwbl y fentrigl dde
  • Truncus arteriosus

Yr anomaledd a welir amlaf yng Nghymru (ond nad yw’n cael ei drafod ymhellach yma) yw Nam y Septwm (Deisban) Fentriglol (VSD), y cofrestrwyd 3,152 o achosion ohono gyda CARIS hyd yn hyn. Canfuwyd 50 o achosion i bob 10,000 o enedigaethau rhwng 1998 a 2016. Gall VSD fod yn bresennol hefyd yn rhai o’r anomaleddau uchod. Ymhlith yr anomaleddau eraill a welir y mae stenosis (crebachiad neu gulhad) y falf aortig, ductus arteriosus agored (PDA) ac anomaledd Ebstein.

Mae system gardiofasgwlaidd baban dynol yn datblygu yn nyddiau cynharaf y beichiogrwydd. Erbyn 22ain diwrnod y beichiogrwydd mwy neu lai, mae’r strwythur a fydd yn troi’n galon yn dechrau pwmpio gwaed; mae gweddill y system yn datblygu ac yn aeddfedu trwy gydol y beichiogrwydd, ac yn fuan ar ôl yr enedigaeth bydd y ductus arteriosus yn cau. Wrth i’n gwybodaeth am eneteg ehangu, felly hefyd ein gwybodaeth am sut mae’r system gardiofasgwlaidd yn datblygu, ac am bwysigrwydd geneteg yn y broses honno.

Mae canfod anomaledd cardiaidd cynhenid yn gynnar yn ei gwneud hi’n bosibl i gynllunio ar gyfer yr esgoriad a chynnig gofal newydd-enedigol dan reolaeth mewn canolfan arbenigol, gyda golwg ar hwyluso deilliannau gwell i’r baban. Cynigir sganiad uwchsain i bob menyw feichiog yng Nghymru rhwng 18fed ac 20fed wythnos y beichiogrwydd fel y gellir canfod anomaleddau yn y ffetws gan gynnwys anomaleddau cardiaidd. Roedd y potensial ar gyfer eu canfod yn isel yn y gorffennol ond mae datblygiadau ym maes uwchsain yn y blynyddoedd diwethaf hyn wedi gwella’r cyfraddau canfod cynenedigol ar gyfer llawer o anhwylderau. O ganlyniad, rhwng 2014 a 2016 cafodd 100% o’r achosion o Syndrom calon chwith hypoplastig a bron tri chwarter o’r achosion o Bedwarawd Fallot eu canfod trwy’r sganiad hwn.

Cardiac anomalies 2017 welsh

 

Amgaead yr Aorta

 

Trawsleoliad yr Arterïau Mawrion

 

Pedwarawd Fallot

 

Calon Chwith Hypoplastig (HLH)

 

Fentrigl Dde â Gollyngfa Ddwbl (DORV)

 

Truncus Arteriosus