Neidio i'r prif gynnwy

Y Ddeddf Galluedd Meddyliol / Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, yn darparu fframwaith statudol ar gyfer pobl nad oes ganddynt alluedd i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu sydd â galluedd ac sy’n dymuno paratoi ar gyfer cyfnod yn y dyfodol pan na fydd ganddynt alluedd efallai. Mae’n egluro pwy all wneud penderfyniadau, ym mha sefyllfaoedd a sut y dylent fynd ati. Caiff y fframwaith cyfreithiol ei ategu gan God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n rhoi arweiniad a gwybodaeth ynghylch sut y mae’r Ddeddf, sydd â grym statudol, yn gweithio’n ymarferol.
 
Mewn rhai achosion, nid oes gan bobl alluedd i gydsynio i driniaeth neu ofal penodol er bod pobl eraill yn cydnabod mai hynny fyddai orau iddynt neu y byddai hynny’n eu hamddiffyn rhag niwed. Os gallai’r gofal hwnnw olygu amddifadu pobl agored i niwed o’u rhyddid, mae mesurau diogelu ychwanegol wedi’u cyflwyno yn y gyfraith i amddiffyn eu hawliau a sicrhau mai cael y gofal hwnnw neu’r driniaeth honno sydd orau iddynt. Cafodd y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid eu cyflwyno er mwyn darparu fframwaith cyfreithiol yng nghyswllt amddifadu pobl o’u rhyddid.

Ar 16 Mai 2019 cafodd y Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf yn diweddaru Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd y Ddeddf a Chod Ymarfer newydd yn cyflwyno’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, a fydd yn 2022 yn disodli’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid fel ffordd o ddiogelu ac amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd ac a allai gael eu hamddifadu o’u rhyddid wrth iddynt gael gofal.

Canllawiau:

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019

Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol