Neidio i'r prif gynnwy

Trawsryweddol

Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad goddrychol unigolyn o fod yn wryw, o fod yn fenyw, o fod yn wryw ac yn fenyw, o beidio â bod yn wryw nac yn fenyw, neu o fod yn rhywbeth arall. Mae’r rhyw a bennir adeg geni plentyn yn seiliedig ar yr organau cenhedlu. Bydd rhai plant a phobl ifanc yn profi trallod oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu hymddygiad a’u dewisiadau yn cyd-fynd â’r stereoteipiau y mae cymdeithas yn eu disgwyl yng nghyswllt rhywedd. Defnyddir y term trawsryweddol pan fydd hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni. Mae Dysfforia Rhywedd yn disgrifio’r anesmwythdra neu’r trallod y bydd unigolyn yn ei deimlo pan fydd gwrthdaro rhwng y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni a’r rhywedd y mae’n uniaethu ag ef. Mae mwy o wybodaeth i’w chael trwy ddilyn y dolenni cyswllt isod.