Neidio i'r prif gynnwy

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn darparu’r fframwaith strategol i wella trefniadau ar gyfer atal pob ffurf ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, amddiffyn pobl rhag trais a chamdriniaeth o’r fath, a chynorthwyo pawb y mae trais a chamdriniaeth o’r fath yn effeithio arnynt. Diben y Ddeddf yw diogelu unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n wynebu risg, neu sy’n dioddef unrhyw ffurf ar drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Canllawiau

Canllawiau statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru

Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru

Ffurfiau ar gam-drin domestig

Trais ar sail anrhydedd
 
Mae trais ar sail anrhydedd yn ffurf ar gam-drin domestig sy’n cael ei gyflawni yn enw ‘anrhydedd’ honedig. Mae’r cod anrhydedd y cyfeirir ato yn un a gaiff ei bennu’n ôl disgresiwn perthnasau sy’n ddynion, a chaiff menywod nad ydynt yn cydymffurfio â’r ‘rheolau’ eu cosbi am ddwyn gwarth ar y teulu.
 
Priodas dan orfod
 
Priodas dan orfod yw priodas lle nad yw un person neu’r ddau berson yn cydsynio (neu, yn achos pobl ag anableddau dysgu, yn gallu cydsynio) i briodi a lle defnyddir pwysau neu gamdriniaeth. Mae’n arfer gwarthus nad oes modd ei gyfiawnhau, a chydnabyddir yn y DU ei fod yn ffurf ar drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig/cam-drin plant ac yn drais difrifol ar hawliau dynol.
 
Gall y pwysau a roddir ar bobl i briodi’n groes i’w hewyllys fod yn gorfforol (sy’n cynnwys bygythiadau, trais corfforol go iawn a thrais rhywiol) neu’n emosiynol ac yn seicolegol (er enghraifft, pan wneir i rywun deimlo ei fod yn dwyn gwarth ar y teulu). Gall cam-drin ariannol fod yn ffactor hefyd (mynd â chyflog rhywun neu wrthod rhoi arian iddo.