Neidio i'r prif gynnwy

PRUDiC (Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod)

Mae adolygiad 2023 o’r Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC) (a gyhoeddwyd yn 2010, a ddiwygiwyd yn 2014 a 2018) yn nodi’r safon ofynnol ar gyfer ymateb amlasiantaethol i farwolaeth annisgwyl plentyn neu unigolyn ifanc. Nod PRUDiC yw sicrhau bod yr ymateb hwn yn ddiogel, yn gyson ac yn sensitif i'r rhai dan sylw a bod unffurfiaeth yn y dull a ddefnyddir ledled Cymru. Dylid rhoi’r weithdrefn ar waith ar gyfer pob marwolaeth annisgwyl plentyn a’i dilyn i’w chwblhau yn y Cyfarfod Adolygu Achos.
 
Hwyluswyd adolygiad 2023 gan y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) ar ran y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru. Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, cynhaliwyd gweithdy aml-asiantaeth ym mis Tachwedd 2022 i gytuno ar newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn.  Dosbarthwyd sylwadau ar ddrafft PRUDiC 2023 drwy Rwydwaith Diogelu GIG Cymru a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol.  Gwnaed diwygiadau mewn ymateb i sylwadau a chyhoeddwyd y ddogfen derfynol i’w rhoi ar waith o fis Ebrill 2023. Cynhaliwyd gweminar i fanylu ar y newidiadau ym mis Mawrth 2023.
 
Mae'r adolygiad hwn yn cyflwyno nifer o newidiadau i'r Broses PRUDiC, sy'n anelu at gryfhau gweithio mewn partneriaeth ynghylch marwolaethau plant. Mae hyn yn cynnwys rhai newidiadau i

  • Rannu Gwybodaeth
  • Anghytundeb ar Gychwyn y broses PRUDiC
  • Penodau newydd ar Farwolaethau Newydd-anedig Annisgwyl, Rhoi Organau a Meinweoedd, Hunanladdiad, Archwiliwr Meddygol Annibynnol, pan fydd Plentyn yn Marw'n Annisgwyl mewn Maes Arall, Marwolaethau Annisgwyl ar Uned Gofal Critigol Pediatrig (PCCU), Pobl 16 a 17 Oed sy'n Derbyn Gofal mewn Meysydd Oedolion y Bwrdd Iechyd  
  • Diogelwch Emosiynol a chefnogaeth i Staff fynychu cyfarfodydd PRUDiC

Y gobaith yw y bydd cyhoeddi'r Ymateb Gweithdrefnol newydd yn galluogi ymchwiliad cyson, cefnogol ac effeithiol i Farwolaethau Annisgwyl Plant yng Nghymru.

 

 

Atodiadau