Neidio i'r prif gynnwy

Prevent

Mae Atal (neu Prevent) yn un o linynnau strategaeth gwrthderfysgaeth y DU, sef Strategaeth CONTEST. Nod y strategaeth yw lleihau’r risg sy’n deillio o derfysgaeth i’r DU a’i buddiannau dramor, er mwyn i bobl allu byw eu bywyd yn rhydd ac yn hyderus. Caiff strategaeth CONTEST ei rhannu’n bedair ffrwd waith, sef Atal, Erlid, Amddiffyn a Pharatoi. Cânt eu galw’n bedair P yn Saesneg, sef Prevent, Pursue, Protect and Prepare.
 
Diben y llinyn hwn yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gynorthwyo terfysgwyr. Mae hynny’n cynnwys gwrthwynebu ideoleg derfysgol a herio’r sawl sy’n ei hybu; cynorthwyo unigolion sy’n arbennig o agored i gael eu radicaleiddio; a gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle aseswyd bod y risg o radicaleiddio yn uchel. Channel yw enw’r rhaglen ddadradicaleiddio.
 
Cyflwynodd Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 ddyletswydd sy’n berthnasol i rai cyrff penodol y mae’r GIG yn un ohonynt, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Yr her allweddol i’r sector gofal iechyd yw sicrhau, os oes arwyddion bod rhywun wedi neu wrthi’n cael ei dynnu i mewn i derfysgaeth, bod y gweithiwr gofal iechyd wedi’i hyfforddi i adnabod yr arwyddion yn gywir, ei fod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael a’i fod yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw, gan gynnwys y rhaglen Channel lle bo angen. Mae atal rhywun rhag cael ei dynnu i mewn i derfysgaeth yn debyg iawn i ddiogelu mewn meysydd eraill, gan gynnwys ym maes cam-drin plant neu drais domestig.
 
Bydd Timau Diogelu Lleol mewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn gallu darparu gwybodaeth leol berthnasol i staff ynghylch sut mae gweithredu os oes ganddynt bryder.

Canllawiau:

Strategaeth Prevent

Canllawiau ynghylch y ddyletswydd i atal

Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth: 0800 789 321