Neidio i'r prif gynnwy

Hunan-niweidio a hunanladdiad

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae hunan-niweidio’n golygu bod nifer sylweddol o bobl o bob oed yn cael eu derbyn i leoliadau meddygol, ac mae’n un o’r pum rheswm mwyaf cyffredin pam y caiff pobl eu derbyn i leoliadau o’r fath. Hunan-niweidio yw’r ffactor risg mwyaf ar gyfer hunanladdiad, a hunanladdiad sy’n achosi’r nifer uchaf ond un o farwolaethau ymhlith pobl ifanc 15 i 19 oed. Fodd bynnag, cyfran fach iawn yn unig o’r sawl sy’n hunan-niweidio sy’n mynd ymlaen i geisio cyflawni hunanladdiad neu sy’n marw yn sgil cyflawni hunanladdiad. Mae’r ffactorau risg ar gyfer pobl ifanc sy’n hunan-niweidio yn gyson â risgiau diogelu eraill megis cam-drin ac esgeuluso plant, camddefnyddio sylweddau, trais gan bartner y ceir perthynas agos ag ef/â hi, a chamfanteisio rhywiol.
 
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn chwarae rôl allweddol o safbwynt rheoli’r sawl sy’n hunan-niweidio. Yn aml, nhw yw’r cyswllt cyntaf y bydd y person ifanc yn ei gael â gwasanaethau cymorth, ac mae’n cael effaith sylweddol ar y canlyniad i’r person ifanc ac ar y tebygolrwydd y bydd yn ceisio cymorth yn y dyfodol. Mae angen dangos tosturi wrth ofalu am bobl ifanc sydd wedi hunan-niweidio, a’u trin gyda’r un parch a’r un urddas ag unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall.

Mae Strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Cymru 2015 – 2020 yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru.