Neidio i'r prif gynnwy

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn ffurf ar gamdriniaeth rywiol sy’n digwydd ym mhob math o leoliadau ar draws Cymru. Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol gyfrifoldeb i adnabod ac atgyfeirio plant a phobl ifanc y gallai fod perygl i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt, ac i chwarae rôl allweddol o safbwynt cynorthwyo pobl ifanc agored i niwed. O ystyried y goblygiadau i iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o’r plant a’r bobl ifanc y camfanteisiwyd yn rhywiol arnynt, mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn bryder mawr o safbwynt iechyd cyhoeddus ac mae angen dull systematig o’i atal ac o ymyrryd ar draws y GIG yng Nghymru.
 
Mae canllawiau amlasiantaeth yn disgrifio rôl gweithiwr iechyd proffesiynol ac mae’r Strategaeth Atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ar gyfer GIG Cymru 2016-19 (hyperlink to document) wedi’i chyhoeddi er mwyn diffinio rôl sefydliadau iechyd ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau i sefydliadau ynghylch sut mae amddiffyn plant y gallai fod perygl i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt. Caiff y canllawiau eu cyhoeddi dan adran 28 Deddf Plant 2004 ac adran 139 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch diogelu plant rhag y perygl i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (a elwir weithiau yn enwaedu benywod (female circumcision)) yn cyfeirio at driniaethau sy’n newid neu’n anafu yn fwriadol organau cenhedlu benywod am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Mae’r arfer yn anghyfreithlon yn y DU dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 a Deddf Troseddu Difrifol 2015 ac mae’n orfodol i holl staff y GIG sôn wrth yr heddlu am bob achos o’r fath ymhlith plant (dan 18 oed) drwy ffonio 101. Caiff staff eu cynorthwyo i wneud hynny trwy ddefnyddio Llwybr Cymru Gyfan ar gyfer Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (hyperlink to document).