Neidio i'r prif gynnwy

Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Mae Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl. Mae’r sawl sy’n masnachu pobl a’r caethfeistri yn cymell, yn twyllo ac yn gorfodi unigolion yn groes i’w hewyllys i fyw bywyd lle cânt eu cam-drin, eu caethiwo a’u trin yn greulon.

Mae Masnachu Plant yn ffurf ar gam-drin plant. Pan ddaw asiantaeth i gysylltiad â phlentyn a allai fod wedi’i fasnachu, dylid hysbysu adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a’r heddlu ar unwaith. Mae gan bob plentyn, waeth beth yw ei statws o ran mewnfudo, yr hawl i gael ei amddiffyn. Mewn egwyddor, mae gan bob asiantaeth a sefydliad sy’n gweld bod ganddynt reswm i bryderu y gallai unigolyn fod wedi’i fasnachu gyfrifoldeb i nodi bod yr unigolyn yn ddioddefwr posibl, a chyfrifoldeb i’w roi mewn cysylltiad â’r awdurdodau cyfrifol a’r sawl sy’n gallu darparu cymorth. Yn achos plentyn, caiff atgyfeiriad ffurfiol i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ei wneud gan ymatebwr cyntaf. Caiff y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ei ddefnyddio i adnabod ac atgyfeirio dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern a sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol.
 
Canllawiau

Y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol