Pan gaiff y dos cywir ei roi, mae farnais fflworid yn ddiogel.
Gellid rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant hyd at bedair gwaith y flwyddyn. Gellid rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Cynllun Gwên hyd at ddwywaith y flwyddyn mewn ysgol neu feithrinfa. Os yw eich plentyn yn cael farnais fflworid yn yr ysgol, mae’n syniad da.
Gall plant sy’n llyncu gormod o fflworid ddatblygu smotiau gwyn ar eu dannedd. Dyna pam mae’n bwysig peidio â gadael i’ch plentyn fwyta past dannedd. Dim ond dwywaith y flwyddyn y caiff farnais fflworid ei roi yn yr ysgol er mwyn sicrhau bod y risg o ddatblygu smotiau gwyn yn fach iawn.
Os bydd eich plentyn yn cymryd diferion neu dabledi fflworid, ni ddylid rhoi farnais fflworid ar ei ddannedd yn y feithrinfa neu’r ysgol.