Mae past dannedd fflworid yn helpu i gadw dannedd yn gryf.
I blant o dan 3 I blant dros 3
I gael cyngor ar beth i'w wneud os na fydd eich plentyn yn caniatáu ichi frwsio ei ddannedd, cliciwch yma.
Mae’r Cynllun Gwên yn cefnogi brwsio dannedd dan oruchwyliaeth i blant mewn rhai meithrinfeydd ac ysgolion babanod. Nid yw hyn yn cymryd lle brwsio dannedd ddwywaith y dydd gartref. Yn hytrach, mae’n ychwanegol at hynny.
Caiff pob rhaglen mewn meithrinfa neu ysgol ei threfnu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Bydd arweinydd a fydd yn gyfrifol am y rhaglen brwsio dannedd.
Rhoddir rhaglen hyfforddi fanwl i’r staff a chynhelir gwiriadau o leiaf unwaith y tymor yn erbyn safonau cenedlaethol ar gyfer arferion gorau.
Defnyddir past dannedd fflworid ‘i’r teulu’ sy’n cynnwys 1350-1500 rhan y filiwn (ppm) o fflworid yn y rhaglen ar gyfer plant dros 3 oed. Defnyddir swm o bast dannedd fflworid sydd yr un faint â physen.
Defnyddir past dannedd sy’n cynnwys 1000 ppm o fflworid ar gyfer plant dan 3 oed. Defnyddir haen denau o bast dannedd fflworid.
Mae gweithgynhyrchydd y past dannedd a ddefnyddir gan y Cynllun Gwên wedi cadarnhau nad oes dim byd sy’n deillio o anifeiliaid ynddo a’i fod yn addas i lysieuwyr ei ddefnyddio.