Neidio i'r prif gynnwy

Cyflyrau Iechyd a Namau

Mae ymgymryd â gwaith teg o ansawdd da yn elfen allweddol o iechyd cadarnhaol gweithwyr. Fodd bynnag, mae pobl sydd â chyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio yn llai tebygol o fod mewn gwaith na’r sawl sy’n cyfateb iddynt nad ydynt yn anabl. Mae bwlch o 30% rhwng nifer y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl mewn cyflogaeth.

Yn ddemograffig, rydym yn gweld poblogaeth sy'n heneiddio gyda chyfran gynyddol o boblogaeth Cymru mewn grwpiau oedran hŷn.  Ar yr un pryd, mae oedrannau ymddeol yn mynd yn hwyrach ac yn hwyrach. Wrth i ni heneiddio, rydym yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau iechyd a namau cronig.

Mae hyn oll yn golygu ein bod yn gweld cynnydd yng nghyfran y gweithwyr â chyflyrau iechyd a namau yn y gweithle. Mae cyflogwyr yn allweddol i gefnogi gweithwyr i aros mewn gwaith, gan fanteisio ar y buddion y gall gweithlu amrywiol a phrofiadol eu cynnig.

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud y canlynol:

  • Cefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd a namau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl a chyhyrysgerbydol
  • Deall a chefnogi anghenion grwpiau penodol megis gweithwyr hŷn a gweithwyr benywaidd
  • Sicrhau bod gan eich sefydliad brosesau rheoli absenoldeb salwch cefnogol ac effeithiol