Efallai y bydd rhai gweithwyr yn fwy tueddol o ddal heintiau neu’n cael eu heffeithio’n fwy difrifol oherwydd imiwnedd is a achosir gan salwch sy'n bodoli’n barhaol, oherwydd meddyginiaethau neu driniaeth feddygol, neu oherwydd nodweddion personol fel ethnigrwydd. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i staff beichiog hefyd.
Mae'r camau y gallwch eu cymryd yn cynnwys:
- Fel rhan o broses ymsefydlu staff, trafod unrhyw anghenion iechyd gyda gweithwyr newydd a chwblhau asesiad risg os oes angen.
- Rhoi addasiadau rhesymol ar waith i atal heintiau rhag lledaenu a lleihau niwed i weithwyr bregus lle bo hynny'n berthnasol, e.e. caniatáu iddyn nhw weithio gartref rywfaint o'r amser neu drwy'r amser, cyfyngu ar rai gweithgareddau neu gysylltiadau.
- Fel sy’n ofynnol gan y gyfraith, mabwysiadu dull unigolyddol ar gyfer gweithwyr beichiog trwy gynnal asesiad risg galwedigaethol.