Y ffordd orau o atal a rheoli heintiau’n dda yw drwy hyrwyddo a chynnal arferion hylendid da ymhlith eich staff a'ch ymwelwyr, ac ar hyd a lled eich gweithle.
Hylendid Dwylo
- Darparu cyfleusterau golchi dwylo addas a digonol gyda dŵr poeth ac oer neu gynnes, sebon a chyfleusterau sychu dwylo.
- Darparu hylif diheintio dwylo ag alcohol (lle bo'n briodol) i ategu arferion hylendid dwylo da (e.e. pan nad yw'n hawdd cyrraedd cyfleusterau golchi dwylo).
- Dangos arwyddion amlwg sy’n amlinellu arferion hylendid gorau a negeseuon atgoffa i olchi dwylo’n rheolaidd ac o leiaf ar ôl mynd i’r tŷ bach, chwythu’r trwyn, tisian/pesychu, a chyn bwyta. Bydd gan rai gweithleoedd ofynion hylendid dwylo ychwanegol sydd angen tynnu sylw atynt hefyd, e.e. mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn ogystal â safleoedd bwyd.
- Dylai arwyddion fod yn amlwg iawn mewn ardaloedd sydd â risg uchel o halogiad fel mannau cymunedol, ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
- Dylid ystyried arwyddion ychwanegol os bu cynnydd mewn heintiau yn y gweithle neu'r gymuned ehangach.
Amgylchedd Glân
- Datblygu amserlen lanhau ar gyfer pob ardal gyda manylion amlder glanhau, dulliau ac offer glanhau yn ogystal â chynhyrchion glanhau/diheintio i'w defnyddio. Dylai nodi pwy sy'n gyfrifol am wneud y gwaith glanhau ym mhob ardal, e.e. gall staff y swyddfa fod yn gyfrifol am lanhau eu desg neu offer TG eu hunain, gellir cyflogi glanhawyr i lanhau ardaloedd penodol.
- Dylai amlder y gwaith glanhau fod yn seiliedig ar risg, gydag ardaloedd risg uwch yn cynnwys:
- Ystafelloedd ymolchi, ceginau ac ardaloedd cymunedol
- Pwyntiau cyffwrdd mynych, e.e. handlenni drysau a switshis golau yn ogystal ag offer fel llungopiwyr, microdonnau neu degellau.
- Arddangos a monitro logiau cofnodion glanhau mewn mannau cymunedol ac ystafelloedd ymolchi i sicrhau bod glanhau rheolaidd yn cael ei wneud. Dylai’r glanhawr nodi llythrennau cyntaf eu henwau, dyddiad ac amser y gwaith glanhau.
- Sicrhau glendid a lleihau annibendod mewn mannau cymunedol. Dangos arwyddion yn gofyn i bobl lanhau a chadw eitemau a rennir fel mygiau, cyllyll a llestri ar ôl eu defnyddio.
- Darparu biniau sbwriel addas i wahanu a didoli gwastraff yn unol â gofynion cenedlaethol.
Awyru
Gall awyru gwell yn y gweithle helpu i leihau trosglwyddiad haint hefyd. Dylid cynnal asesiad risg o’r camau y gellir eu cymryd mewn ardaloedd ag awyru gwael, e.e. agor drysau, ffenestri neu fentiau neu sicrhau bod awyru mecanyddol ar waith. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor ar wella awyru yn y gweithle.