Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n datblygu polisi atal a rheoli heintiau?

Argymhellir y dylai fod gan bob cyflogwr bolisi iechyd a diogelwch cadarn ar waith sy'n cynnwys elfennau penodol ar bolisi atal a rheoli heintiau er mwyn cefnogi amgylchedd gwaith diogel i gyflogwyr, contractwyr a chwsmeriaid. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu arweiniad ac adnoddau ar hyn sy'n cynnwys gwybodaeth am gynnal asesiadau risg cyffredinol yn y gweithle.

Isod mae rhai ffactorau i'w hystyried wrth fynd i'r afael â'r risgiau a'r camau lliniaru sy'n gysylltiedig â heintiau.

  • Nodi peryglon amgylcheddol neu sefyllfaol posib yn y gweithle trwy gynnal asesiad risg yn y gweithle.
  • Fel rhan o'r broses hon, nodi ac ystyried anghenion gweithwyr bregus sy’n debygol o fod yn wynebu’r risg fwyaf o ddal heintiau, fel gweithwyr beichiog a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor neu dros oedran penodol. Hefyd, gellid ystyried y rhai sy'n gofalu am bobl fregus gartref. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio proses asesu risg unigol. Dylid sicrhau bod ystyriaeth o'r angen am asesiad risg unigol yn cael ei rhoi i unrhyw aelodau newydd o staff pan fyddant yn dechrau.
  • Gwerthuso'r risgiau a phenderfynu ar ragofalon a rheolaethau i'w rhoi ar waith i leihau neu liniaru'r risgiau.
  • Cofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg a'u cyfleu i'r holl staff perthnasol.
  • Sicrhau bod staff wedi cael hyfforddiant perthnasol, cadw cofnodion o hyfforddiant a gynhaliwyd, ac atgoffa pobl pan ddylai hyfforddiant gael ei adnewyddu.
  • Darparu gwybodaeth ddigonol os oes angen, megis arwyddion neu arweiniad.
  • Adolygu a diweddaru'r asesiad risg yn y gweithle yn rheolaidd (e.e. yn flynyddol) neu pan fydd angen adolygu ffactorau sy’n newid (e.e. newidiadau amgylcheddol neu sefyllfaol yn y gweithle, deddfwriaeth newydd).