Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cyfyngu ar ledaeniad posibl heintiau rhwng unigolion?

Mae'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau cysylltiad â heintiau yn y gweithle a'u trosglwyddo yn cynnwys:

  • Annog gweithwyr sydd â symptomau o haint (e.e. peswch, tisian, dolur rhydd, chwydu, brechau) i beidio â dod i’r gweithle, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo y gallant barhau i weithio. Dylai'r sefydliad ei gwneud yn glir i staff y dylent naill ai weithio gartref neu gymryd amser i ffwrdd yn sâl i gyfyngu ar ledaeniad posibl i eraill.
  • Dylai fod gan y sefydliad bolisi clir yn egluro am ba hyd y dylai pobl osgoi dod i’r gwaith er mwyn atal heintiau rhag trosglwyddo a/neu gysylltu â chanllawiau perthnasol, e.e. ni ddylai staff sydd â dolur rhydd a/neu sy’n chwydu ddychwelyd i'r gwaith nes eu bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr. Mae rhagor o fanylion am gyfnodau cadw draw a argymhellir ar gael yma.
  • Sicrhau bod staff yn cadw draw o’r gwaith nes nad oes ganddynt symptomau mwyach.
  • Fel egwyddor gyffredinol, os yn bosibl, dylid caniatáu i rai neu holl aelodau’r staff weithio gartref am beth o’r amser, yn enwedig adeg achosion uchel o haint a salwch fel yr hydref/gaeaf.
  • Pan fydd gweithwyr sydd â symptomau'n teimlo eu bod yn gallu parhau i weithio, dylid cynghori trefniadau gweithio eraill fel gweithio gartref. Mae'n bwysig eu bod yn aros i ffwrdd o'r gweithle neu gyfarfodydd ag eraill nes nad oes ganddynt symptomau mwyach.
  • Annog staff cymwys i gael eu brechlyn ffliw blynyddol a COVID-19 lle bo hynny'n berthnasol (gweler cwestiwn 5).
  • Cynnal amgylchedd diogel fel yr amlinellir yng nghwestiwn 1 uchod (trefn lanhau, annog hylendid dwylo da, gwella awyru). 
  • Cadw cofnodion cywir o staff ac ymwelwr ag achos posib/diagnosis o haint fel eich bod yn gallu cydymffurfio ag unrhyw geisiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a/neu’r awdurdod lleol i gefnogi olrhain cysylltiadau mewn perthynas â chlefydau hysbysadwy. Dylai’r data gofynnol gynnwys dyddiad dechrau'r symptomau, y math o symptomau ac, os yn bosibl, nifer ac enwau unigolion sydd wedi dod i gysylltiad â'r haint.
  • Os yw busnes yn casglu gwybodaeth ar gyfer olrhain cysylltiadau, rhaid iddo gydymffurfio â gofynion diogelu data yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Dylech gefnogi dymuniadau gweithwyr ac ymwelwyr/cwsmeriaid i'ch gweithle sydd am wisgo gorchudd wyneb.
  • Ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, dylid darparu cyfarpar diogelu personol i’r staff ar gyfer y math o haint/symptomau a’u hyfforddi i wisgo’r cyfarpar diogelu personol yn ddiogel.