Pwrpas y pecyn cymorth hwn yw darparu gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur yng Nghymru sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a negodi i gael gweithleoedd gwyrddach a thecach.
Mae’n ceisio cryfhau llais gweithwyr a’u hundebau. Mae’n darparu gwybodaeth, offer a syniadau i helpu cynrychiolwyr undebau i ymgyrchu, trefnu a hybu ymwybyddiaeth.
Mae hefyd yn cynnwys rhestrau gwirio ar gyfer negodi a bargeinio ar wahanol agweddau ar gynaliadwyedd yn y gweithle. Ei nod yw sicrhau bod lle canolog i lais gweithwyr, drwy eu hundebau, yn y newidiadau y bydd eu hangen ym mhob gweithle i sicrhau bod Cymru’n gallu trawsnewid mewn ffordd gyfiawn at fod yn Gymru wyrddach a thecach.
Mae’r adnoddau yn y llyfryn hwn wedi’u bwriadu ar gyfer cyrsiau hyfforddi TUC Cymru ac undebau llafur, a hefyd i hyrwyddo gweithredu yn y gweithle ac yn y gymuned.
Gwyliwch ein gweminar am y llyfryn.
Yn ogystal â'r pecyn cymorth rydym wedi sefydlu rhwydwaith gweithleoedd gwyrddach a chyrsiau ar sgiliau gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn. Gweler manylion pellach ar ein tudalen digwyddiadau.