Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestrfa Tir EM Abertawe Safon Aur Iechyd Corfforaethol Cymru Iach ar Waith

“Arweiniodd yr hyn a ddysgom at bolisi straen cenedlaethol newydd a newidiadau i’r polisïau camddefnyddio alcohol a sylweddau.  Yn bwysicaf oll, fe wnaethon ni ddysgu gwerthuso ein hymgyrchoedd yn well. Pa mor effeithiol oedden nhw?”

Cofrestrfa Tir EM Abertawe 

Mae Cofrestrfa Tir EM yn adran anweinidogol yn ogystal â chorff partner yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac fe'i sefydlwyd ym 1862.  Mae Cofrestrfa Tir EM yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo gwerth £7 triliwn, gan alluogi sicrhau gwerth dros £1 triliwn o fenthyca personol a masnachol yn erbyn eiddo ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys mwy na 26 miliwn o deitlau sy'n dangos tystiolaeth o berchnogaeth ar gyfer mwy nag 87% o dirfas Cymru a Lloegr. Rhaid i unrhyw un sy'n prynu neu'n gwerthu tir neu eiddo, neu'n cael morgais, wneud cais i ni gofrestru.

Ar hyn o bryd mae Cofrestrfa Tir EM yn cyflogi tua 6,393 o bobl mewn 14 lleoliad, gyda 650 yn cael eu cyflogi gan uned fusnes Abertawe gyda staff sy’n gweithio yn y swyddfa ac o bell.

Mae ein Strategaeth Pobl yn rhan allweddol o Strategaeth Fusnes y sefydliad ac mae’n cynnwys Fframwaith Presenoldeb, Iechyd a Lles i sicrhau bod Cofrestrfa Tir EM yn lle gwych i weithio. Mae'r cynllun cyflenwi cysylltiedig yn cwmpasu'r holl feysydd gan gynnwys gofyniad bod gan bob uned fusnes Bwyllgor Iechyd a Lles. Mae hyn yn ffurfioli'r strwythur sydd ar waith yn lleol er 2002 pan sefydlodd Abertawe Bwyllgor Hybu Iechyd gyntaf i gefnogi'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth lleol i ymgymryd â mentrau hybu iechyd a sicrhau bod yr holl bolisïau, cenedlaethol a lleol, yn cwmpasu dull cyfannol o gynorthwyo staff i fod yn ffit, yn iach ac yn y gwaith.

Tan yn ddiweddar iawn, mae ein gweithlu wedi bod yn un sy'n heneiddio, gan ddod â heriau wrth gefnogi staff trwy absenoldeb salwch tymor byr a thymor hir mewn ffordd reoledig a chefnogol.

Gwella Rheoli Absenoldeb Salwch

Dechreuodd ein taith i wella absenoldeb salwch yn 2008 gyda strategaeth iechyd a lles staff. Bryd hynny, cyfartaledd nifer y diwrnodau absenoldeb salwch bob blwyddyn ar gyfer pob unigolyn oedd 16. Ymhlith y gweithredoedd roedd:

  • Mwy o ddarpariaeth iechyd galwedigaethol gan gynnwys sgrinio iechyd unigol gydag argymhellion i unigolion a thîm arweinyddiaeth y swyddfa - mae hyn wedi parhau ac mae'r adroddiadau dros amser yn dangos y gwelliannau a wnaed i reoli lles staff.
  • Mae'r Pwyllgor Hybu Iechyd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion allweddol o leihau ysmygu, mynd i'r afael â straen ac annog mwy o ymarfer corff a bwyta'n iach.
  • Iechyd a lles yn eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan gynnwys monitro data perthnasol.
  • Hyfforddiant i reolwyr llinell a chyflwyno fforwm rheolwyr llinell i drafod heriau ac atebion.
  • Sicrhau bod mesurau priodol o dan y polisi absenoldeb salwch yn cael eu defnyddio i gynorthwyo staff yn ôl i'r gwaith gan gynnwys dychwelyd yn raddol i'r gwaith, sgyrsiau dychwelyd i'r gwaith a chyflwyno addasiadau rhesymol.
Effaith a Chyflawniadau

Yn 2011, rhoddodd ein hasesiad llwyddiannus ar gyfer Gwobr Cymru Iach ar Waith y gydnabyddiaeth a’r ysgogiad inni barhau gyda’r siwrnai hon.  Fe wnaethom sefydlu Grŵp Presenoldeb a Strategaeth Iechyd a Lles Cofrestrfa Tir EM cenedlaethol, gan rannu ein harferion gorau ar gyfer y cylch gorchwyl a chalendr digwyddiadau cenedlaethol. Arweiniodd ein dysgu at bolisi straen cenedlaethol newydd a newidiadau i'r polisïau camddefnyddio alcohol a sylweddau.  Yn bwysicaf oll, gwnaethom ddysgu gwerthuso ein hymgyrchoedd yn well, pa mor effeithiol oeddent?

Mae ein ffocws ar absenoldeb salwch wedi parhau gyda'r nod o gefnogi ein gweithlu sy'n heneiddio trwy gydweithio â Sefydliad Iechyd Prydain (gwnaethom ennill Gwobr Healthy Hearts), Macmillan, Cruse, y gwasanaeth cymorth yn y gwaith Lles drwy Waith ac Amser i Newid i enwi ond ychydig. Mae annog cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol bob amser wedi bod yn allweddol, gyda dosbarthiadau ymarfer corff ar y safle a champfa ynghyd â heriau corfforol rheolaidd i ymgysylltu â'n gweithlu.

Yn 2013, gwnaethom gyflawni Gwobr Aur Gweithio Iach Cymru ac erbyn hynny roeddem wedi haneru ein cyfradd absenoldeb oherwydd salwch.  Y brif her o hyd yw lleihau absenoldeb salwch tymor hir. Ar ôl saib o 10 mlynedd, daeth newid pan ailgychwynnodd recriwtio staff newydd gan newid demograffeg ein pobl a darparu ‘gwaed newydd’ gyda gwahanol ddiddordebau. Roedd hyn yn cyd-daro â lansiad Strategaeth Fusnes a Strategaeth Pobl genedlaethol newydd a wnaeth adfywio’r pwyllgor Iechyd a Lles gydag aelodau newydd o'r pwyllgor!  Rhoddodd asesiad 2019 ar gyfer ein Gwobr Cymru Iach ar Waith gyfle inni weithio eto gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac alinio ein hunain ag arferion gorau cyfredol ar ysmygu a pheiriannau gwerthu.

Ymrwymiad i Les Meddyliol Staff

Trwy gydol ein taith bu'r effaith fwyaf sylweddol ar iechyd meddwl a lles meddyliol.  Gan ddefnyddio cyngor a chefnogaeth Cymru Iach ar Waith, mae swyddfa Abertawe wedi pwyso am newid ar lefel genedlaethol gan gynnwys sefydlu polisi straen a dylanwadu ar y Strategaeth Pobl genedlaethol, eirioli dros gyflwyno Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a gwell hyfforddiant i'r aelodau o staff a rheolwyr llinell. Cefnogir hyn gan fforymau rheolwyr llinell rheolaidd a chefnogaeth gyffredinol gan ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth.

Mae'r pandemig wedi dod â heriau newydd yn enwedig ym maes lles meddyliol staff a'n neges o'r dechrau fu pwysigrwydd gofalu am les yr holl staff.  Mae'r ymrwymiad hwn yn rhedeg trwy'r sefydliad cyfan ac ym mhopeth a wnawn. Mae cyfathrebu da yn allweddol i'r cyfan ac mae ein bwletin staff wythnosol yn parhau i roi cyngor a chefnogaeth hanfodol i helpu staff i gadw'n heini, yn iach ac yn y gwaith, ond, yn anad dim, yn ddiogel.  Fel y dywedodd aseswyr Gwobr Cymru Iach ar Waith wrthym, ‘rydym yn deall’.