Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaethau Achos Cyflogwyr: Ymgorffori Dulliau Iechyd a Llesiant

Mae'r gyfres hon o astudiaethau achos yn dangos sut mae deiliaid gwobrau Cymru Iach ar Waith yn cefnogi eu gweithluoedd drwy ymgorffori dulliau i fynd i’r afael â meysydd pwnc iechyd a llesiant staff pwysig fel rhan o'u taith i ennill gwobr Cymru Iach ar Waith.

 Cartrefi Melin Lechyd Meddwl a Llesiant (PDF, 1017Kb)

Mae Cartrefi Melin wedi’i nodi fel cyflogwr enghreifftiol ar gyfer yr astudiaeth achos hon ar iechyd meddwl a llesiant oherwydd ymagwedd gadarnhaol a pharhaus at wella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol gweithwyr. Mae Cartrefi Melin wedi cyflawni Safon Iechyd Corfforaethol Platinwm (CHS) Cymru Iach ar Waith (HWW) ac mae’n Sefydliad ymrwymedig ar gyfer Amser i Newid Cymru (TtCW).

Cofrestrfa Tir EM Abertawe Safon Aur Iechyd Corfforaethol Cymru Iach ar Waith

Gan ddylanwadu ar strategaethau a pholisïau ar lefel genedlaethol a haneru’r gyfradd absenoldeb salwch dros 5 mlynedd, mae swyddfa Cofrestrfa Tir EM yn Abertawe wedi arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithlu sy’n heneiddio, wedi creu amgylchedd sy’n hybu iechyd ac wedi cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol. 

Bluestone Resorts Ltd Safon Iechyd Corfforaethol Aur Cymru Iach ar Waith

Mae meithrin amgylchedd gwaith lle gall pobl ffynnu a pherfformio ar eu gorau yn llywio ymrwymiad Bluestone Resort i reoli absenoldeb salwch yn dda ac i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles gweithwyr.

Meithrinfa Abacus Abertawe Gwobr Arian Iechyd y Gweithle Bach Cymru Iach ar Waith

Mae hybu iechyd meddwl a lles staff yn flaenoriaeth allweddol i Feithrinfa Abacus yn Abertawe.  Mae cyfathrebu dwy ffordd yn ogystal â chyfeirio at arweiniad a chymorth yn sail i weithgareddau yn ogystal â defnydd rheolaidd o Olwyn Lles gan yr holl staff ar gyfer nodi materion sy’n effeithio ar les unigolion y gallai fod angen cefnogaeth arnynt.