Neidio i'r prif gynnwy

Bluestone Resorts Ltd Safon Iechyd Corfforaethol Aur Cymru Iach ar Waith

“Mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd.”

Bluestone Resorts Ltd 

Mae cyrchfan gwyliau Bluestone wedi'i leoli yn Sir Benfro, gan ddenu dros 150,000 o westeion sy'n aros yn flynyddol ac mae’n cyflogi dros 700 o staff mewn ystod eang o wahanol alwedigaethau.  Mae'r busnes yn ymfalchïo mewn creu profiad unigryw a gwahanol i westeion, wedi'i ddarparu gan dîm eithriadol.  Gydag ethos ‘Mae Pob Un yn Cyfri’, mae Bluestone yn deall, trwy ofalu am les ei bobl a thrwy greu gweithlu hapus, y byddan nhw, yn eu tro, yn gofalu am y gwesteion sy’n aros, yn creu eiliadau a phrofiadau cofiadwy ac yn annog ymwelwyr i ddychwelyd a rhoi sylwadau cadarnhaol.

Mae gan bob aelod o’r tîm rôl mor bwysig i’w chwarae yng ngweithrediad dyddiol Bluestone a thrwy ganolbwyntio ar iechyd a lles ei bobl, nid yn unig y mae hyn yn lleihau lefelau absenoldeb ond mae hefyd yn meithrin amgylchedd gwaith lle gall unigolion ffynnu a pherfformio ar eu gorau.

Ymgysylltu â Chymru Iach ar Waith

Gwnaeth mynd trwy’r broses Cymru Iach ar Waith ddarparu dull cydlynol o ddatblygu Rhaglen Lles Gweithwyr Bluestone unigryw.  Trwy feddu ar ddealltwriaeth fwy manwl o’r cysylltiadau amlwg rhwng gwaith ac iechyd a lles ein pobl, roedden ni’n gallu llunio mentrau a strategaethau i wella profiad cyffredinol y gweithwyr.

Elfen bwysig o gefnogaeth fu’r gallu i gael gafael ar wybodaeth ac astudiaethau achos arferion gorau yn hawdd.  Gwnaeth ehangu ein dealltwriaeth hefyd o’r gwasanaethau cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i helpu i ddatblygu ein dulliau. Hefyd, roedd Cymru Iach ar Waith yn hwyluso cyfleoedd rhwydweithio yn amhrisiadwy ar gyfer ein dysgu a datblygiad ein polisïau a’n dulliau, gan gynnwys gallu estyn allan at rwydwaith Cymru Iach ar Waith i drafod heriau a rhannu syniadau arferion gorau.

Rheoli Presenoldeb

Elfen allweddol o’n rhaglen oedd buddsoddi mewn hyfforddiant i reolwyr ddeall ffactorau sy’n cyfrannu at absenoldeb gweithwyr.  O ganlyniad, mae rheolwyr lawer yn fwy rhagweithiol wrth wella trefniadau gweithle, er enghraifft, sicrhau bod cyfarfodydd lles wedi’u trefnu, a’u bod mewn gwell sefyllfa i gynorthwyo staff sy’n dychwelyd i’r gwaith o salwch gydag addasiadau i’r gweithle, dychwelyd yn raddol i’r gwaith a mynediad at gymorth galwedigaethol lle bo gofyn.

Iechyd Meddwl a Lles

Gwnaethom flaenoriaethu iechyd meddwl a lles gweithwyr trwy wneud y canlynol:

  • Arwyddo addewid Amser i Newid Cymru.
  • Darparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a chadernid i reolwyr llinell a sicrhau bod sgyrsiau lles yn rhan o gyfarfodydd dal i fyny rheolaidd â staff.
  • Gwella ein rhaglen gymorth i weithwyr i gynnwys hunan-atgyfeirio i wasanaethau cwnsela wyneb yn wyneb.
  • Cyflwyno hyfforddiant cadernid personol ar gyfer staff sy’n dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cau oherwydd y pandemig.
  • Creu cylchlythyr gydag adran lles bob pythefnos gyda gwybodaeth, cyfeirio a chymorth ar gyfer iechyd meddwl da.
  • Mesur sut y mae aelodau o’r tîm yn teimlo trwy arolwg gwirio diogelwch wythnosol sydd wedi helpu i gyfeirio adnoddau a chymorth.
Effaith a Chyflawniadau

Gallwn lunio cydberthynas rhwng y nifer cynyddol sy’n defnyddio’r rhaglen gymorth i weithwyr, yn enwedig gwasanaethau cwnsela, a lleihad mewn absenoldebau sy’n ymwneud â straen, iselder a gorbryder.  Mae hyn yn dangos bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael gwell cefnogaeth yn y gweithle a’u bod yn gallu parhau i fod yn y gwaith yn hytrach na bod yn absennol. Caiff hyn ei hwyluso ymhellach pan fydd rheolwyr yn cyflwyno addasiadau dros dro i gefnogi’r unigolyn lle y bo’n briodol.

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni Safon Aur Cymru Iach ar Waith ac mae’r adborth yn ein harolwg ym mis Mehefin 2021 sy’n nodi bod 85% o’n pobl yn credu bod lles gweithwyr yn flaenoriaeth ar gyfer y busnes a bod diwylliant lles cadarnhaol yn brawf o lwyddiant ein Rhaglen Les.