Neidio i'r prif gynnwy

Cyfran y plant â phwysau iach sy'n debyg i lefelau cyn-bandemig ond erys problemau

Cyhoeddwyd: Mai 23 2023

Cliciwch yma i weld y adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant

Mae nifer y plant 4-5 oed a oedd â phwysau iach yn weddol debyg i nifer y lefelau cyn-bandemig, yn y chwe bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno data i Raglen Mesur Plant 2021-22.

Mae canran y plant sy’n byw gyda thros bwysau neu â gordewdra yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf ym mhob un o’r chwe bwrdd iechyd y casglwyd data ar eu cyfer. Mae'r siart isod yn dangos y data hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r bwlch anghydraddoldeb mwyaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro lle mae 29.8% o’r plant sy’n byw yn y pumed mwyaf difreintiedig dros bwysau neu’n ordew o gymharu â 18.0% o blant sy’n byw yn y pumed mwyaf difreintiedig. Tra bod y bwlch lleiaf yn BAI Powys sy'n nodi bod 26.4% o blant yn y rhai mwyaf difreintiedig o gymharu â 21.2% yn y pumed lleiaf difreintiedig. Fodd bynnag, ni ddylid cymharu bylchau amddifadedd rhwng byrddau iechyd oherwydd bydd eithafion amddifadedd yn amrywio’n fawr. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn llawer mwy amrywiol yn economaidd-gymdeithasol na BIA Powys.

Yn ogystal â data byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, mae lefel Clwstwr Gofal Sylfaenol wedi'i gynhyrchu. Mae mapiau sy'n cyflwyno gordewdra fesul ardal Clwstwr Gofal Sylfaenol ar gael ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol y casglwyd data ar eu cyfer.

Roedd tarfu o hyd ar gasglu data yn 2021/22 ac nid oedd unrhyw ddata ar gael ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oherwydd effeithiau parhaus pandemig Covid-19. Mae hyn yn golygu na allwn ddarparu ffigur cyffredinol ar gyfer Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i'r Rhaglen Mesur Plant Cymru.

Cliciwch yma i weld y adroddiad blynyddol y Rhaglen Mesur Plant

Cysylltwch

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk