Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Mesur Plant Cymru

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur uchder a phwysau plant dosbarth derbyn.

Rydym am ddysgu sut mae plant yng Nghymru yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gydlynu y Rhaglen Mesur Plant ac mae pob bwrdd iechyd Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Canlyniadau Diweddaraf

 

Y Prif Bwyntiau 

  • Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau allweddol Rhaglen Mesur Plant (RhMP) Cymru ar gyfer chwe rhanbarth Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2021-2022. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â mesuriadau a gymerwyd o blant sy’n byw yng Nghymru, sy’n mynychu’r dosbarth derbyn yng Nghymru ac a drodd yn 5 oed yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Roedd swm y data a gasglwyd yn 2021/22 yn llawer gwell o gymharu â 2020/21. Fodd bynnag, amharwyd ar y broses o hyd ac nid oedd unrhyw ddata ar gael ar gyfer un rhanbarth BILl. Mae hyn yn golygu na allwn ddarparu ffigur cyffredinol i Gymru.
  • Cafwyd cyfranogiad is mewn sawl rhanbarth Awdurdod Lleol o gymharu â chyn y pandemig. Defnyddiwyd technegau dadansoddi gwyddor data i archwilio pa mor gynrychioliadol oedd y samplau, gan ddod i’r casgliad ei bod hi’n briodol adrodd y data’n amrwd (heb ei bwysoli).
  • Roedd cyfran y plant gordew yn amrywio ledled BILLau o 10.6% (95%CI 8.8-12.6) ym Mwrdd Addysgu Powys i 14.1% (95%CI 13.0-15.3) ym Mae Abertawe. Roedd cyfran y plant gordew yn amrywio ar lefel Awdurdod Lleol hefyd, o 9.9% (95%CI 7.9-12.2) yn Sir Fynwy i 15.8% (95%CI 14-17.8) yng Nghastell-nedd Port Talbot.
  • Ar draws pump rhanbarth Bwrdd Iechyd, roedd cyfrannau’r plant gordew yn uwch o gymharu â’r cyfrannau a adroddwyd ar gyfer 2018/19. Yn achos Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, roedd y gyfran ordew yn is na’r hyn a adroddwyd yn 2018/19.
  • Byrddau Iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe oedd yr unig ranbarthau gyda data cymharol o’r flwyddyn flaenorol (2020/21). Nodwyd y llynedd bod cyfran y plant gordew wedi cynyddu’n sylweddol yn ystadegol yn y ddau Fwrdd Iechyd yn 2020/21 o gymharu ag adroddiadau cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae’r data ar gyfer 2021/22 yn dangos lleihad sylweddol yn yr ystadegau ar gyfer cyfran plant gordew.
  • Roedd cyfrannau’r plant gordew yn y cwintel â’r amddifadedd mwyaf ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn uwch o gymharu â’r gyfran yn y cwintel â’r amddifadedd lleiaf ar draws y chwe BILl. Roedd y gwahaniaeth yn sylweddol mewn pedwar o’r BILl.
  • Dangosodd tueddiadau amddifadedd mewn Byrddau Iechyd Lleol dros amser batrwm tebyg o’r cyfnod cyn y pandemig i 2021/22 mewn tri rhanbarth BILl. Mae’n ymddangos bod y bwlch amddifadedd ym Mae Abertawe wedi lleihau ers 2018/19. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y bwlch wedi cynyddu yng Nghaerdydd a’r Fro a Hywel Dda. Gan fod bwlch amddifadedd yn fesur cymharol, dylai’r canlyniadau hyn gael eu dehongli ar wahân ar gyfer pob BILl, ac nid eu defnyddio i gymharu Byrddau Iechyd Lleol. Ymhellach, dylid eu dehongli’n ofalus gan mai dim ond 1 neu 2 fesur sydd wedi bod ers y pandemig.
  • Wrth gymharu’r cyfrannau gordewdra cysylltiedig ag amddifadedd cyfredol ar gyfer Byrddau Iechyd Bae Abertawe ac Aneurin Bevan gyda data 2020/21, nodwyd bod cyfran y plant gordew yn y cwintel â’r amddifadedd mwyaf wedi lleihau’n sylweddol yn ystadegol yn 2021/22 yn y ddau ranbarth. Mae hyn yn awgrymu y gallai’r cynnydd a welwyd mewn mesurau gordewdra a adroddwyd ar gyfer 2020/21 fod wedi’i yrru gan newidiadau yn y rhanbarthau â lefelau uwch o amddifadedd.
  • Ar gyfer yr adroddiad hwn, cafodd darpariaeth data ar Lefel Clwstwr Gofal Sylfaen ei ddarparu fel peilot. Roedd hyn mewn ymateb i geisiadau gan Fyrddau Iechyd Lleol am ddarparu data i helpu i nodi anghenion lleol ac i gefnogi cynllunio gwasanaethau o bosibl. Roedd yna wahaniaethau sylweddol yng nghyfran y plant gordew mewn pedwar rhanbarth BILl. Mae mapiau clystyrau ar gael ar gyfer pob BILl yn Rhan 2 yr adroddiad.