Neidio i'r prif gynnwy

Sut Mae'r Rhaglen yn Gweithio

Hanes, fframwaith deddfwriaethol ac agweddau technogol

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno hanes Rhaglen Mesur Plant Cymru; gwybodaeth ynghylch sut y caiff y rhaglen ei rhedeg, gan gynnwys y fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i’r rhaglen, a manylion  technegol ynghylch sut y caiff y wybodaeth ei dadansoddi a’i chyflwyno.

 

Sut Mae’r Rhaglen yn Gweithio


Bydd y tîm nyrsio ysgol yn mesur ac yn pwyso bob plentyn yn y dosbarth derbyn oni bai bod eu rhieni wedi dewis nad yw eu plant yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Gall rhieni wneud cais bod eu plentyn yn cael ei fesur a’i bwyso ond nad yw’r canlyniadau’n cael eu defnyddio fel rhan o’r Rhaglen Mesur Plant.

Mae staff y bwrdd iechyd yn rhoi’r wybodaeth i mewn i gofnod iechyd cyfrifiadurol y plentyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, mae’r pwysau a’r taldra yn cael eu hanfon i Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymrulink to an external website - opens in new window fydd yn dadansoddi’r data ac yn edrych am dueddiadau ar lefel leol, ar lefel bwrdd iechyd ac yn genedlaethol er mwyn dysgu sut mae plant yn tyfu.

Anfonir y data yn y fath fodd na all y staff sy’n derbyn y wybodaeth ac sy’n gyfrifol am ei dadansoddi adnabod plant unigol.

Pa grŵp oedran sy’n cael ei gynnwys?

Ar hyn o bryd, bydd bob plentyn yn y dosbarth derbyn (4/5 oed) yn cael cynnig mesuriad pwysau a thaldra.

Pam mae’r grŵp oedran hwn wedi cael ei ddewis?

Bydd mesuriadau a gymerir yn y flwyddyn derbyn yn cael eu cymharu â mesuriadau a gymerwyd yn rhannau eraill o’r DU ac yn arbennig y Rhaglen Mesur Plant yn Lloegr.

Onid yw plant eisoes yn cael eu pwyso a’u mesur mewn ysgolion?

Ydyn. Ond, cyn sefydlu’r Rhaglen Mesur Plant, gwnaed hyn mewn ffyrdd gwahanol mewn ardaloedd gwahanol. Roedd plant yn cael eu mesur ar oedrannau gwahanol, gydag offer gwahanol ac roedd y canlyniadau’n cael eu cofnodi mewn ffyrdd gwahanol.

Oherwydd hyn, roedd yn amhosibl cael darlun unffurf o dwf plant ledled Cymru. Nawr bod Rhaglen Mesur Plant Cymru wedi cael ei sefydlu, mae plant i gyd yn cael eu pwyso a’u mesur yn yr ysgol gan ddefnyddio offer cymeradwy, ac mae’r canlyniadau’n cael eu cofnodi gan ddefnyddio’r un ffurflen gyfrifiadurol ar draws y wlad.