Neidio i'r prif gynnwy
Tracey Cooper

Prif Weithredwr

Amdanaf i

Prif Weithredwr

Ymunodd Tracey ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mehefin 2014.

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd Tracey wedi bod yn Brif Weithredwr yr Awdurdod Gwybodaeth ac Ansawdd Iechyd (HIQA) yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 2006. 

Cymhwysodd Tracey fel meddyg ym Mhrifysgol Southampton ym 1990. Mae ei gyrfa wedi cynnwys gwaith clinigol  ym maes meddygaeth frys, gwasanaethau gofal brys a diwygio’r system iechyd. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o systemau iechyd gwahanol, a chynghori arnynt, mewn rhannau gwahanol o’r byd.

Yn 2008, ymunodd Tracey â Bwrdd y Gymdeithas Ryngwladol er Ansawdd Gofal Iechyd (ISQua) a daeth yn llywydd arno yn 2011. Daeth ei chyfnod yn y swydd Llywydd Diwethaf i ben ym mis Hydref 2015.