Cyfarwyddwr Anweithredol, Awdurdod Lleol
Cyfarwyddwr Anweithredol, Awdurdod Lleol
Mae gan Mohammed ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Cyfarwyddwr Addysg yn Islington, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant yn Peterborough ac, am un ar ddeg mlynedd, yn Brif Weithredwr dwy sir yng Nghymru: Sir Ddinbych a Phowys.
Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau gweinidogol cenedlaethol, gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Adfer Addysg Merthyr Tudful.
Ers 2018, bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Hafren Dyfrdwy, ac yn fwy diweddar yn un o ymddiriedolwyr Cymorth Canser Macmillan a MIND yn Enfield.