Neidio i'r prif gynnwy

Oes unrhyw resymau pam na ddylid rhoi'r brechiad?

Ychydig iawn o resymau sydd pam na all plant gael eu brechu. Ni ddylid rhoi'r brechiad yma i blant sydd wedi cael adwaith difrifol (sy'n bygwth bywyd) i ddos ​​blaenorol o'r brechiad neu unrhyw gynhwysyn yn y brechiad.

Os yw’r canlynol yn berthnasol i'ch plentyn:

  • mae ganddo anhwylder gwaedu (er enghraifft haemoffilia, a’i waed ddim yn ceulo'n iawn), neu
  • mae wedi cael ffit nad yw wedi'i achosi gan dymheredd uchel,

siaradwch â'ch meddyg, nyrs y feddygfa neu ymwelydd iechyd cyn i'ch plentyn gael unrhyw frechiad.