Neidio i'r prif gynnwy

Polio

Anogir rhieni plant dan 5 oed i sicrhau bod eu plant wedi derbyn pob un o’u brechiadau polio. Mae hyn yn dilyn canfod poliofeirws mewn dŵr gwastraff yn Llundain.

Mae polio yn afiechyd difrifol sy'n effeithio'n bennaf ar blant dan bump oed. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heintio â’r poliofeirws unrhyw symptomau, ond mewn rhai achosion gall arwain at anableddau a bygwth bywyd hyd yn oed. Roedd polio yn gyffredin yn y DU a ledled y byd ar un adeg, ond mae bellach yn brin iawn oherwydd gellir ei atal drwy frechu.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi dod o hyd i’r poliofeirws mewn samplau carthffosiaeth a gymerwyd o Lundain, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod y feirws yn lledu o berson i berson. I’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru, sydd wedi’u brechu’n llawn oherwydd eu hoedran, mae’r risg yn isel. Ond gallai plant sydd heb gael eu brechiadau i gyd fod mewn perygl o gael afiechyd a all achosi parlys parhaol posibl a marwolaeth hyd yn oed.