Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n teithio i wlad sydd â'r frech goch.  A oes angen brechlyn MMR arnaf? 

 Dylai unrhyw un sy'n teithio i ardal y gwyddys ei bod wedi cael brigiadau o achosion o'r frech goch, clwy'r pennau neu rwbela gael y brechlyn MMR cyn iddynt deithio. Mae hyn dim ond yn berthnasol os nad ydynt wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR yn flaenorol. Os yw eich plentyn dros chwe mis oed, efallai y bydd yn gallu cael ei frechu'n gynharach na'r arfer os yw'n teithio i ardaloedd risg uchel. Dylech drafod hyn gyda’ch meddyg teulu neu'ch nyrs. Dylai unrhyw blentyn sy'n cael y brechlyn MMR cyn 12 mis oed barhau i gael dau ddos rheolaidd arall ar yr oedran a argymhellir. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau sydd eu hangen arnoch ar gyfer teithio yn Gwybodaeth am Frechu A-Y - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)