Neidio i'r prif gynnwy

Ydi'r ffliw yn ddifrifol?

Gall y ffliw fod yn ddifrifol i blant. Fel COVID-19, mae’n cael ei achosi gan feirws a gall rhai plant ddatblygu cymhlethdodau difrifol fel broncitis, niwmonia a heintiau ar y glust. Bob blwyddyn, bydd angen triniaeth mewn unedau gofal dwys ar rai plant yng Nghymru oherwydd y ffliw. 

Bydd pob plentyn dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2022), a phlant ysgol o’r dosbarth Derbyn hyd at a chan gynnwys Blwyddyn Ysgol 11, yn cael cynnig brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn yr hydref / gaeaf yma i helpu i’w hamddiffyn rhag y ffliw. 

Mae’n arbennig o bwysig bod plant a phobl ifanc rhwng chwe mis ac 17 oed sydd a chyflwr Iechyd hirdymor yn cael eu brechu, gan eu bod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau na phlant eraill os byddant yn dal y ffliw. 

Y gaeaf yma efallai y byddwn yn gweld COVID-19 a’r ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd, felly mae’n bwysig iawn i’ch plentyn gael ei amddiffyn rhag y ffliw. 

Cael brechiad y ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw. 

Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: icc.gig.cymruu/brechlynffliw