Neidio i'r prif gynnwy

Ffliw Amddiffyn plant a phobl ifanc 2022/23

Amddiffyn plant a phobl ifanc gyda chwistrell syml yn y trwyn 

Gwybodaeth am y ffliw i blant a phobl ifanc yn 2022/23

5 rheswm i frechu eich plentyn rhag y ffliw 

  1. Diogelu eich plentyn 
    Bydd y brechiad yn helpu i ddiogelu eich plenty rhag cymhlethdodau difrifol y ffliw, fel niwmonia. 
  2. Eich diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau 
    Bydd brechu eich plentyn rhag y ffliw yn helpu i ddiogelu eraill, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed o gymhlethdodau’r ffliw. 
  3. Chwistrell yn y trwyn yw hwn
    Mae’r rhan fwyaf o blant yn cael chwistrell sydyn a di-boen ac nid ydynt yn cael eu heffeithio ganddo. 
  4. Mae’n well na chael y ffliw 
    Mae salwch y ffliw yn amhleserus a gall fod yn ddifrifol i rai plant. Mae brechiadau’r ffliw yn ddiogel ac maent wedi cael eu rhoi i filiynau o blant ym mhob cwr o’r byd. 
  5. Osgoi colli pethau 
    Pan mae plant yn cael y ffliw, maent yn colli’r ysgol neu gyfleoedd pwysig i ddatblygu, ac efallai y bydd angen i rieni gymryd amser o’r gwaith neu wneud trefniadau gofal plant eraill. 

Cwestiynau cyffredin