Neidio i'r prif gynnwy

Pa fath o frechiad ffliw a roddir i blant a phobl ifanc?

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechiad y ffliw drwy chwistrell drwyn sy’n gwbl ddiboen gan mai dyma’r brechiad ffliw gorau iddynt. Mae’n ager ysgafn sy’n cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn, a gellir ei roi o ddwy oed. Nid yw’r brechiad ffliw drwy chwistrell trwyn yn amharu o gwbl ar y rhan fwyaf o blant. 

Os bydd eich plentyn yn colli ei frechiad ffliw, siaradwch â nyrs yr ysgol, eich ymwelydd iechyd, eich meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gael y brechiad. 

Ni ellir rhoi’r brechiad drwy chwistrell trwyn i unrhyw un sydd: 

  • dan ddwy oed 
  • yn 18 oed neu’n hŷn 
  • yn feichiog 
  • ar driniaeth asbrin (salisylad) hirdymor 
  • yn cymryd tabledi steroid (ar hyn o bryd, neu yn ystod y pythefnos diwethaf) neu 
  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn) ac sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd gwarchodedig. 

Ni ellir rhoi’r brechiad drwy chwistrell trwyn i unrhyw un sydd: 

  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n bygwth bywyd i frechiad ffliw (neu unrhyw gynhwysyn yn y brechiad)
    â system imiwnedd wan 
  • â brest sy’n wichlyd ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tri diwrnod blaenorol 
  • wedi cynyddu’r defnydd o fewnanadlydd asthma yn ystod y tri diwrnod blaenorol 

Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc na allant gael y brechiad drwy chwistrell trwyn gael pigiad brechiad y ffliw yn ei le, yn eu meddygfa. 

Dylai plant a phobl ifanc ag asthma sydd angen steroids rheolaidd drwy’r geg neu sydd wedi bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer eu hasthma yn y gorffennol gael eu cyfeirio at arbenigwr i gael cyngor ar dderbyn y brechiad drwy chwistrell trwyn. Efallai y bydd angen pigiad brechiad y ffliw arnynt yn lle’r chwistrell. 

Os yw eich plentyn yn cael mewnblaniad yn y cochlea yn ystod yr wythnos cyn ei apwyntiad ar gyfer y brechiad drwy chwistrell trwyn, neu I fod i gael y brechiad yn ystod y pythefnos ar ôl ei fewnblaniad, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, y nyrs ysgol, eich meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am ragor o gyngor. 

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad y ffliw

Os yw eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel mae’n well gohirio ei frechiad nes ei fod yn teimlo’n well. Cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau COVID-19: llyw.cymru/coronafeirws  

Os na all eich plentyn osgoi dod i gysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar, dylech drafod hyn gyda’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, eich meddyg teulu neu nyrs y feddygfa cyn i’ch plentyn gael y brechiad drwy chwistrell trwyn. Efallai y byddant yn penderfynu cynnig pigiad fel brechiad y ffliw i’ch plentyn yn lle chwistrell.