Neidio i'r prif gynnwy

Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Yn gyffredinol, gwahoddir plant sy’n ddwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2022) i gael brechiad ffliw yn eu meddygfa. 

Mewn rhai ardaloedd, bydd plant tair oed a rhai plant pedair oed yn cael cynnig y brechiad yn y feithrinfa. 

Os yw eich plentyn yn y grŵp oedran hwn a heb gael gwahoddiad i gael y brechiad erbyn canol mis Tachwedd, cysylltwch â’i feddygfa. 

Bydd plant yn yr ysgol (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn ysgol 11) yn derbyn gwybodaeth a ffurflen ganiatâd gan yr ysgol ac yn gyffredinol byddant yn cael eu brechiad ffliw yn yr ysgol. Darllenwch yr wybodaeth a dychwelyd y ffurflen wedi’i llofnodi cyn gynted ag y bo modd. 

Os yw eich plentyn yn bedair oed neu’n hŷn, ac nid yw yn yr ysgol, cysylltwch â’i feddyg teulu er mwyn iddo allu cael ei frechiad. 

Os yw eich plentyn o dan ddwy oed, neu’n 16 neu 17 oed, ac yn wynebu risg uwch o gymhlethdodau o’r ffliw oherwydd cyflwr iechyd, dylai ei feddygfa ei wahodd i gael brechiad. 

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechiad ffliw cyn i’r ffliw ddechrau mynd ar led yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi yn ddiweddarach yr un fath.