Neidio i'r prif gynnwy

Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?

Os yw eich plentyn yn chwe mis oed neu’n hŷn a bod ganddo un o’r cyflyrau iechyd canlynol, mae’n bwysig ei fod yn cael brechiad y ffliw bob blwyddyn gan ei fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau’r ffliw. 

Mae’r cyflyrau’n cynnwys y canlynol: 

  • Diabetes 
  • Problem gyda’r gallon 
  • Cwyn ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sydd angen mewnanadlydd steroid neu dabledi rheolaidd 
  • Clefyd yr arennau (o gam 3) 
  • Imiwnedd is oherwydd afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn) 
  • Clefyd yr iau / afu 
  • Strôc neu strôc fechan 
  • Cyflwr niwrolegol 
  • Dueg ar goll neu broblem gyda’r ddueg 
  • Anabledd dysgu 
  • Pobl ifanc â phwysau corff uwch (Mynegai Màs y Corff o 40 neu uwch) 

Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechiad yn eu hysgol os ydynt yn y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11, neu yn eu meddygfa. 

Gofalwyr ifanc 

Mae’n bwysig iawn i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun sy’n agored i niwed o ran y ffliw a’I gymhlethdodau gael brechiad ffliw bob blwyddyn. Mae’n helpu i’w hamddiffyn a hefyd y person meant yn gofalu amdano.