Neidio i'r prif gynnwy

A all fy mhlentyn gael y brechiad os oes ganddo alergeddau?

Gall y rhan fwyaf o blant gael brechiad y ffliw os oes ganddynt alergeddau. Bydd y person sy’n rhoi’r brechiad yn holi i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w roi. 

Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag alergedd i wyau dderbyn y brechiad heb unrhyw broblemau. Mae’n bosibl y bydd angen cyfeirio’r nifer bach o unigolion sydd wedi bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer anaffylacsis (adwaith alergaidd prin sy’n bygwth bywyd) i wyau at arbenigwr. Efallai y bydd eich plentyn yn cael cynnig pigiad brechiad y ffliw yn lle chwistrell.