Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod Cymaint â Phosib yn Cael Brechlynnau: Defnyddio cyfweliadau ysgogol ar gyfer gwell sgyrsiau

Disgrifiad:

Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol a brechwyr rôl bwysig mewn sgyrsiau am gael brechlynnau ac maent yn cael eu nodi gan y cyhoedd fel ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am frechlynnau. Gall dull ac arddull sgwrs am frechlynnau wneud byd o wahaniaeth o ran deall petruster unigol, mynd i'r afael â rhwystrau, a dylanwadu ar y nifer sy'n cael brechlynnau. Wedi'i gynllunio ar y cyd â'r Uned Gwyddor Ymddygiad, y Tîm Hyfforddiant ac Arweiniad a'r Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu, nod y modiwl hwn yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi technegau cyfweld ysgogol ar waith pan fyddwch yn cael sgyrsiau sy'n ymwneud â brechlynnau. 

Addas ar gyfer:

Mae'r modiwl yn addas ar gyfer unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sy’n cael sgyrsiau sy’n ymwneud â brechlynnau. 

Hyd:

30 munud 

Cofrestru:

Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy ESR. I gael mwy o arweiniad ar sut i gael mynediad i'r cwrs cliciwch yma:

Sut i gael mynediad at y modiwl drwy ESR (Saesneg yn unig)

Ar gyfer staff nad oes ganddynt fynediad i ESR neu sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru, bydd arnoch angen enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i wefan Learning@Wales. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch ag elearning@wales.nhs.uk. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch man gwaith a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gydag .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru.

Allweddi Cofrestru Learning@Wales:

Os oes arnoch chi angen allwedd cofrestru i gael mynediad i'r modiwl cliciwch yma:
Neidio i'r allweddi cofrestru