Neidio i'r prif gynnwy

A oes plant a phobl ifanc na ddylent gael y chwistrell drwynol?

Ni ellir rhoi'r brechlyn chwistrell drwynol i unrhyw un sydd:

  • o dan ddwy oed;
  • 18 oed neu drosodd;
  • yn feichiog;
  • ar driniaeth asbrin (salisylad) hirdymor;
  • yn cymryd tabledi steroid dos uchel (ar hyn o bryd, neu yn ystod y pythefnos diwethaf); neu’r
  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn) ac sy'n derbyn gofal mewn amgylchedd gwarchodedig.

Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud asesiad cyn rhoi'r brechlyn.

 

Ni ellir rhoi'r brechlyn chwistrell drwynol i unrhyw un sydd:

  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n bygwth bywyd i frechlyn ffliw (neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn);
  • â system imiwnedd wan;
  • â brest sy'n wichlyd ar ddiwrnod y brechiad neu yn y tri diwrnod blaenorol;
  • wedi cynyddu'r defnydd o fewnanadlwyr asthma yn ystod y tri diwrnod blaenorol.

Mae pigiad brechlyn ffliw ar gael blant a phobl na allant gael y brechlyn chwistrell drwynol, o'u meddygfa.

Dylai plant a phobl ifanc ag asthma sydd angen steroidau drwy'r geg rheolaidd, neu yr oedd angen triniaeth gofal dwys arnynt ar gyfer asthma yn y gorffennol, gael eu hatgyfeirio i arbenigwr i gael cyngor i gael y brechlyn chwistrell drwynol. Gellir cynnig pigiad brechlyn ffliw iddynt yn lle hynny.

 

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio brechu rhag y ffliw. Os yw eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel mae'n well oedi ei frechiad nes ei fod yn teimlo'n well. Cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau COVID-19. Ewch i: llyw.cymru/coronafeirws

Os na all eich plentyn osgoi cysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg neu nyrs cyn i'ch plentyn gael y brechlyn chwistrell drwynol. Gallant benderfynu cynnig pigiad brechlyn ffliw i'ch plentyn yn lle hynny.