Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad pertwsis (y pas) i ferched beichiog

Ar y dudalen hon:


 

Cefndir

Mae pertwsis (y pas) yn afiechyd hysbysadwy.

Mae pertwsis yn afiechyd anadlol hynod heintus, a achosir gan y bacteriwm Bordetella pertussis. Gall yr afiechyd yma y mae posib ei atal drwy frechiad achosi salwch difrifol a marwolaeth, yn enwedig mewn babanod iau na 6 mis oed. Mae cymhlethdodau pertwsis yn cynnwys bronco-niwmonia, taflu i fyny dro ar ôl tro gan arwain at golli pwysau a hypocsia yr ymennydd yn ystod parocsysmau o beswch, a all arwain at niwed i'r ymennydd. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt uniongyrchol neu ddafnau anadlol yn yr awyr ac mae ganddo gyfnod inciwbeiddio o 6 i 20 diwrnod.

Cyflwynwyd y brechiad pertwsis i’r rhaglen imiwneiddio i famau yn 2012. Ers ei gyflwyno, mae’r brechiad pertwsis wedi bod yn effeithiol iawn wrth amddiffyn babanod rhag y salwch difrifol yma, hyd nes bod posib iddynt gael eu brechiad plentyndod arferol cyntaf yn ddau fis oed. Mae'r brechiad yn amddiffyn babanod trwy drosglwyddo gwrthgyrff y fam yn y groth. Mae'r brechiad hefyd yn amddiffyn y fam rhag cael pertwsis ac yn lleihau'r risg y bydd y fam yn ei drosglwyddo i'w babi.  


Y brechiad

Mae’r brechiad pertwsis yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog o 16 wythnos y beichiogrwydd ymlaen. Yn ddelfrydol mae’n cael ei gynnig rhwng 16 a 32 wythnos y beichiogrwydd er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd y babi'n cael ei amddiffyn o’i enedigaeth. Mae posib rhoi'r brechiad ar ôl 32 wythnos, ond gan fod angen amser ar y corff i wneud gwrthgyrff i'w trosglwyddo i'r babi heb ei eni, efallai na fydd yn rhoi'r un lefel o amddiffyniad i'r babi. Mae angen brechiad ar fenywod beichiog ym mhob beichiogrwydd.

Gall merched na chafodd y brechiad pertwsis yn ystod eu beichiogrwydd ei dderbyn o hyd yn ystod y 2 fis ar ôl rhoi genedigaeth (hyd nes bydd y plentyn yn cael ei ddos cyntaf o frechiad sy'n cynnwys pertwsis). Bydd hyn yn amddiffyn y fenyw a gall ei hatal rhag dod yn ffynhonnell haint i'r babi, er na fydd yn amddiffyn y babi yn uniongyrchol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o risg o frechu merched sy'n bwydo ar y fron gyda'r brechiad pertwsis.       

Mae’r brechiad pertwsis yn ystod beichiogrwydd yn cael ei roi fel rhan o gynnyrch cyfun; difftheria /  tetanws / pertwsis anghellog / brechiad polio anweithredol (dTaP/IPV). Nid oes brechiad pertwsis monofalent ar gael. Mae'r cynnyrch hwn yn cynnwys dos is o frechiadau pertwsis, difftheria a thetanws nag a roddir fel rhan o’r amserlen brechu plant. Nid yw wedi'i weithredu (nid yw’n frechiad byw) ac nid oes thiomersal ynddo. Gan nad yw brechiad anweithredol yn cynnwys unrhyw organebau byw, ni all ddyblygu ac ni all achosi haint i'r fam na'r ffetws. Mae'r brechiadau'n hynod effeithiol ac mae ganddynt gofnodion diogelwch rhagorol.

Mae’r brechiad pertwsis hefyd yn cael ei gynnig i bob babi fel rhan o’r amserlen brechu plant arferol gan y GIG (“brechiad 6-mewn-1).

Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.        

Gall gweithwyr gofal iechyd fod yn ffynhonnell haint bwysig i fabanod bregus. Mae gweithwyr gofal iechyd, sydd â chyswllt uniongyrchol â merched beichiog neu fabanod, nad ydynt wedi cael brechiad sy'n cynnwys pertwsis yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, yn gymwys i gael brechiad sy'n cynnwys pertwsis fel rhan o'u gofal iechyd galwedigaethol.


Crynodeb o nodweddion y cynnyrch  Hafan – compendiwm meddyginiaethau electronig (emc)

Mae’r cyfarwyddyd o ran amserlen yn y Llyfr Gwyrdd pennod 24 yn cymryd lle SmPC.


Cyfarwyddyd

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI:  chwilio e.e., pertwsis)


Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru


Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Mae cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechiadau ac afiechydon ar gael drwy’r dudalen E-ddysgu.

Ceir rhagor o wybodaeth ac adnoddau am hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.


Adnoddau clinigol a gwybodaeth


Cyfarwyddiadau grwpiau o gleifion (PGDs) a phrotocolau

Mae templedi PGD ar gyfer brechiadau ar gael ar y dudalen Cyfarwyddiadau i grwpiau o gleifion (PGDs) a phrotocolau.


Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth  ​​​​​​​


Data a goruchwyliaeth

Mae gwybodaeth am oruchwyliaeth y brechiad ar gael ar y tudalennau isod: