Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Iechyd Meddwl

 

I rai pobl mae meddyliau a teimladau negyddol yn gryfach ac yn fwy anodd i'w gwaredu, maent yn aros gyda nhw drwy'r amser. Gall hyn fod yn arwydd bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio a gall fod yn arwydd bod angen rhywfaint o gymorth arnynt.

Ymhlith yr arwyddion mae:

  • Rydych yn flin ac yn hawdd eich cynhyrfu
  • Rydych ei chael yn anodd cysgu
  • Gallech fod yn ddagreuol heb reswm
  • Efallai eich bod yn teimlo'n bryderus neu'n poeni drwy'r amser
  • Efallai nad ydych yn mwynhau'r pethau a wnewch fel arfer

Mae llawer o gymorth ar gael, nid oes angen i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Mae'r wybodaeth ganlynol yn nodi'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Efallai eich bod yn teimlo eich bod am siarad â rhywun gan ddefnyddio un o'r llinellau cymorth, neu efallai y byddwch yn fwy cyfforddus yn defnyddio un o'r cyrsiau ar-lein. Chi sy'n dewis. Mae siarad yn helpu a gall dod o hyd i rywun i siarad ag ef am sut rydych yn teimlo wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu cadw eich hun yn ddiogel neu'n poeni y gall fod angen cymorth brys ar rywun arall dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio 999 i gael cymorth arbenigol.

 

Bywyd ACTif

Gall y cwrs hwn eich helpu i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn llai gofidus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a allai fod yn achosi gofid. 

SilverCloud

Mae'r cwrs hwn yn cynnig amrywiaeth gwahanol o raglenni yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i'ch grymuso i ddatblygu sgiliau i reoli eich llesiant seicolegol gyda mwy o hyder, o gyfleustra eich lleoliad eich hun ac yn eich amser eich hun. Byddwch yn derbyn adolygiadau bob pythefnos o bell a fydd yn cael eu trefnu gyda'ch Cydlynydd CBT Ar-lein i'ch cynorthwyo drwy'r rhaglen. 

Monitro Gweithredol yng Nghymru MIND

Mae'r cwrs hunangymorth dan arweiniad chwe wythnos hwn yn cynnig cymorth i reoli pryder, iselder, hunan-barch, straen, teimlo ar eich pen eich hun, rheoli dicter, a galar a cholled. Bob wythnos, bydd Ymarferydd Monitro Gweithredol yn anfon gwybodaeth a llyfrau gwaith atoch ac yn ffonio i gynnig cymorth ac arweiniad.

Mae Siarad yn Bwysig

Mae gan Talking Matters ac Amser i Newid Cymru ganllaw defnyddiol ar gyfer dechrau a chynnal sgwrs am eich iechyd meddwl chi neu rywun arall. Os oes angen cymorth arnoch chi neu rywun arall, estynnwch allan heddiw neu ffoniwch un o'r rhifau uchod.