Neidio i'r prif gynnwy

Cadw mewn cysylltiad?

gliniadur

Mae'n anarferol iawn i ni i gyd gael cais i aros gartref ac osgoi cysylltiad â'n ffrindiau a'n teulu. Gall rhai pobl fod yn teimlo'n arbennig o unig neu'n ynysig, hyd yn oed os nad yw hwn yn deimlad rydych chi wedi'i brofi o'r blaen.

  • Mae cadw mewn cysylltiad yn bwysig iawn. Rydym i gyd yn dibynnu ar rwydweithiau cymdeithasol i gynnal llesiant da ac mae hyn yr un mor bwysig yn awr ag erioed. Drwy rannu eich profiadau â'r rhai rydych yn ymddiried ynddynt, gallwch hefyd gefnogi eich gilydd a lleihau pryder. 
  • Efallai y bydd angen i chi wneud pethau'n wahanol. Mae miliynau o bobl bellach yn cysylltu ar-lein, boed drwy gyfryngau cymdeithasol, cynhadledd fideo, e-bost neu dros y ffôn.
  • Mae grwpiau cymunedol a chymorth arall y gall pawb gael mynediad iddynt. Gall bod yn rhan o grŵp cymunedol neu roi help llaw ynddo eich helpu chi i deimlo'n well yn ogystal â rhoi cymorth i eraill ar adeg pan fo'i angen.

 

Cadw mewn cysylltiad

Ar adegau o straen, mae'n bwysig defnyddio'ch rhwydwaith cymorth – gallai hyn fod yn deulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr neu eich cymuned ehangach. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig os oes angen i chi hunanynysu. Dyma rai syniadau a allai eich helpu i wneud hyn:

  • Cytunwch ar sut rydych am gadw mewn cysylltiad â'ch gilydd, boed drwy alwad Skype wythnosol neu drwy negeseuon testun.
  • Sicrhewch fod cadw mewn cysylltiad yn rhan o'ch trefn. Er enghraifft, gallech drefnu sgwrs fideo “coffi rhithwir” gyda rhywun y byddech fel arfer yn ei weld yn y cnawd. 
  • Gall rhannu gwybodaeth gywir o ffynonellau dibynadwy helpu eraill i deimlo llai o straen a'ch helpu chi i gysylltu â nhw. 
  • Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch ar ryw adeg, felly meddyliwch am bwy y gallech siarad â nhw. Mae nifer o linellau cymorth y gallech eu defnyddio, os na allwch siarad â rhywun yr ydych yn ei adnabod. 

 

Byw gydag eraill

Yn ein hamgylchedd cartref arferol o ddydd i ddydd, rydym fel arfer yn gallu rhoi lle i'n gilydd, er enghraifft drwy fynd i'r ysgol, i'r gwaith neu gymryd rhan mewn hobïau. Mae aros gartref yn golygu bod tarfu ar ein harferion bob dydd a byddwn yn gweld eraill yn ein cartref yn llawer amlach. Gallai cytuno ar drefn, y mae pawb yn cael lleisio barn amdani, a pharchu preifatrwydd eich gilydd, eich helpu i ailadeiladu eich trefn ddyddiol, yn ogystal â rhoi rhywfaint o'r lle i chi yr ydych wedi arfer ag ef yn ôl i chi.   

 

Sgiliau digidol

Os yw cysylltu'n rhithwir yn beth newydd i chi, gallech ddefnyddio cyrsiau am ddim Learn My Way i wella'ch sgiliau digidol. Mae gan y cwrs adran benodol yma wedi'i chynllunio i sicrhau eich bod yn hyderus gyda phopeth y gallai fod angen i chi ei wneud ar y rhyngrwyd, gan gynnwys siopa ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllaw cam wrth gam ar sut i gynnal galwad fideo â'ch teulu yma.

 

Cefnogi eich cymuned

Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli o hyd pan fyddwch yn aros gartref, er enghraifft drwy gyfeillio â phobl dros y ffôn. Gallwch ddod o hyd i ragor o ffyrdd i helpu yn Gwirfoddoli Cymru.

 

Darganfod mwy