Neidio i'r prif gynnwy

Teuluoedd, Plant a Phobl Hŷn

Teuluoedd ag anghenion ychwanegol
  • Mae Relate Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i deuluoedd neu unigolion y mae angen cyngor ar berthynas arnynt
  • Mae Care for the Family yn cynnig cyfoeth o wasanaethau cymorth i deuluoedd gan gynnwys cwnsela mewn profedigaeth, cymorth priodas a chymorth i rieni.
  • Yn ogystal â chyngor a chymorth i rieni, mae gwefan Comisiynydd Plant Cymru hefyd yn cynnwys hwb gwybodaeth gyda gweithgareddau i blant, cyngor gofal a chyngor i blant a phobl ifanc.
  • Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig neu anableddau, gall SNAP Cymru roi cymorth a chyngor i rieni.
  • Gall ASD info Cymru roi cymorth i'r rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd, oedolion a phlant sydd ag ASD, ac mae AP Cymru yn cynnig gwasanaeth sy'n werth y byd i deuluoedd plant ag awtistiaeth.
  • Mae Stepping stones yn rhoi cyngor a chymorth gwych i gartrefi gofal plant yn y DU. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth llinell gymorth ac e-bost i rieni.
  • Mae Flourishing Families yn darparu gwasanaethau cwnsela ac addysg i deuluoedd ar draws y DU.

 

Rhieni Sengl
  • I gael cymorth, cyngor ac awgrymiadau ar gyfer cynnal perthynas, Cwestiynau Cyffredin a'r rheolau ar gyfer trefniadau cyswllt ewch i Gingerbread UK.
  • Mae Only Mums ac Only Dads yn darparu arweiniad diweddaraf y llywodraeth ac yn cynnig gwasanaethau cyfryngu yn ogystal â chyfleuster sgwrsio ar-lein.
  • Yn yr un modd mae singleparents.org.uk yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau i deuluoedd rhiant sengl. Maent hefyd yn cynnig fforwm zoom dyddiol i rannu awgrymiadau a chyngor gan rieni sengl eraill.

 

Plant
  • Yn ogystal â'u llinell gymorth, mae Childline yn cynnig arweiniad a chyngor ar ymdopi â gorbryder, cau ysgolion a chyfyngiadau symud. Maent hefyd yn darparu rhwydwaith cymorth i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Ar eu gwefan gallwch ddod o hyd i adnoddau dysgu, ymarferion a thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Mae Gweithredu dros Blant yn darparu gweithgareddau ar-lein dyddiol yn ogystal â chymorth ar-lein i rieni a chanllawiau ar COVID-19.
  • I blant a phobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl, mae Hideout yn lle diogel i siarad ar-lein, gan weithredu fel lloches rithwir.
  • Mae Meic Cymru yn darparu gweithgareddau ar-lein am ddim ac awgrymiadau ynghylch sut i beidio poeni'n ormodol yn ystod COVID-19. Gallwch gysylltu â nhw am ddim dros y ffôn, neges destun neu drwy sgwrsio ar y wefan.
  • Am gyngor ar sut i siarad â phlant am COVID19 ewch i wefan yr NSPCC. Maent hefyd yn darparu eu gwasanaeth cymorth arferol yn ogystal â rhoi cymorth ac arweiniad ar COVID-19.

 

Pobl Hŷn
  • Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth sgwrs dros y ffôn  i'r rhai dros 70 oed (gallai fod yn ddefnyddiol i bob oed) yng Nghymru sy'n byw ar eu pen eu hunain – mae'r fenter yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd i bobl hŷn, ateb ymholiadau sylfaenol a chysylltu pobl â gwasanaethau a chymorth lleol yn ystod yr achos o'r Coronafeirws.
  • Mae gwefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl hŷn yng Nghymru.