Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau ar-lein

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig i bob rhiant, darpar riant, teidiau a neiniau a phobl sy’n rhoi gofal fynediad am ddim i gyfres o gyrsiau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i ddeall cerrig milltir datblygiadol ac emosiynol eu plant, gan roi sylw i bopeth o’r cyfnod cyn-geni i ddiwedd yr arddegau.   

Mae’r pedwar cwrs seiliedig ar dystiolaeth wedi cael eu cynllunio gan y GIG ac arbenigwyr eraill er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol i bawb, ochr yn ochr â help mwy traddodiadol gan deulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. 

Mae’r cyrsiau’n edrych ar bynciau fel chwarae, dulliau magu plant, cwsg, pyliau o dymer, cyfathrebu a mwy, ac maen nhw i gyd ar gael ar-lein o nawr tan fis Mai 2021. 

I gael mynediad, y cyfan sydd raid i ddefnyddwyr ei wneud yw mynd i www.inourplace.co.uk a defnyddio’r cod ‘NWSOL’ os ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru, a ‘SWSOL’ os ydynt yn byw yng Nghanolbarth, Gorllewin a De Cymru. Wedyn dewis y cyrsiau sydd fwyaf perthnasol i’w plentyn neu eu plant, sydd wedi’u rhannu’n bedair adran hawdd eu defnyddio sy’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • Deall beichiogrwydd, llafur, geni a’ch babi 
  • Deall eich babi
  • Deall eich plentyn 
  • Deall ymennydd eich person ifanc yn ei arddegau